Prentisiaethau
Coleg Gŵyr Abertawe yw un o’r darparwyr prentisiaethau mwyaf blaenllaw yng Nghymru, gan gynnig amrywiaeth eang o raglenni prentisiaeth arobryn.
Mae mwy a mwy o ymadawyr ysgol yn cofrestru ar gyfer prentisiaethau fel dewis arall i gyrsiau Safon Uwch neu alwedigaethol, gan geisio ennill sgiliau a gwybodaeth ymarferol mewn maes penodol.
Mae prentisiaethau yn darparu profiad ymarferol yn y byd go iawn sy’n canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau perthnasol i’r proffesiwn o’ch dewis. Fel prentis, byddwch yn ennill wrth ddysgu, gan ennill yr wybodaeth, y sgiliau a’r profiad y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi, gan y bydd cyfle gennych i gymhwyso gwybodaeth ddamcaniaethol yn uniongyrchol i dasgau ymarferol.
Gall pobl o unrhyw oedran ddilyn prentisiaeth ar yr amod eu bod yn gyflogedig am o leiaf 16 awr yr wythnos.
Un o’r agweddau mwyaf atyniadol ar brentisiaethau yw’r ffaith eich bod yn ennill cyflog wrth ddysgu. Gall hyn helpu i dalu costau addysgol a darparu sefydlogrwydd ariannol yn ystod eich cyfnod hyfforddi.
Gallwch ddechrau prentisiaeth ar lefel sy’n addas i chi, gan ddechrau ar lefel sylfaen gyda chyfle i symud ymlaen i lefel uwch reolwr. Eich dewisiadau lefel mynediad yw Prentisiaeth Sylfaen (Lefel 2) neu Brentisiaeth (Lefel 3) gyda’r posibilrwydd o symud ymlaen i Brentisiaeth Uwch (Lefel 4 a Lefel 5).
Mae nifer o brentisiaid yn cael cynnig swyddi parhaol gan y cwmni lle cwblhaon nhw eu hyfforddiant, ac os na, bydd y sgiliau a’r wybodaeth a enillir yn ystod y rhaglen brentisiaeth yn eich gwneud yn ymgeisydd mwy deniadol i gyflogwyr eraill yn y diwydiant.