Skip to main content

Safon Uwch Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Amser-llawn
Lefel 3
A Level
Gorseinon
Dwy flynedd
Ffôn: 01792 890700 (Gorseinon)

Arolwg

Bydd y cwrs hwn yn rhoi gwybodaeth fanwl, dealltwriaeth a sgiliau i chi sy’n gysylltiedig â datblygiad a gofal unigolion drwy gydol eu hoes. Byddwch yn datblygu dealltwriaeth o ddylanwadau ar dwf, datblygiad, ymddygiad a lles pobl. 

Byddwch hefyd yn ennill dealltwriaeth fanwl o anghenion cymdeithasol, corfforol, emosiynol a diwylliannol pobl sy’n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth, ac yn cydnabod bod gan bob unigolyn gymysgedd unigryw o alluoedd ac anghenion. 

Byddwch yn ennill dealltwriaeth o sut mae’r ddarpariaeth yng Nghymru yn cefnogi datblygiad a lles unigolion, fel y gallant wneud penderfyniadau gwybodus nawr ac yn ddiweddarach yn eu bywyd. 

Mae’r pynciau presennol yn cynnwys: 

  • Hybu iechyd a lles 
  • Cefnogi iechyd, lles a gwydnwch 
  • Safbwyntiau damcaniaethol datblygiad plant a phobl ifanc 
  • Cefnogi datblygiad, iechyd, lles a gwydnwch plant a phobl ifanc 
  • Safbwyntiau damcaniaethol ymddygiad oedolion 
  • Cefnogi oedolion i gynnal iechyd, lles a gwydnwch.

Gwybodaeth allweddol

  • O leiaf saith gradd A*-C ar lefel TGAU, gan gynnwys Mathemateg, Saesneg laith a Gwyddoniaeth.

Amser llawn dros ddwy flynedd gydag opsiwn cwrs carlam* 

Asesu Blwyddyn 1 (Safon UG): 

  • Asesiad di-arholiad – aseiniad wedi’i osod yn allanol, a’i farcio’n fewnol  
  • Arholiad allanol.

Asesu Blwyddyn 2 (Safon Uwch): 

  • Asesiad di-arholiad – wedi’i osod yn allanol, a’i farcio’n fewnol  
  • Arholiad allanol.

*Opsiwn y cwrs carlam: Astudio’r UG a’r U2 o fewn un flwyddyn academaidd 

Meini Prawf Graddio: 

  • Arholiadau: 50% 
  • Aseiniadau: 50% 

Yn y Coleg gallech symud ymlaen i’r cwrs Gradd Sylfaen mewn Addysg, Dysgu a Datblygu neu Ymarfer Datblygiad Plentyndod

Astudiaethau pellach yn y brifysgol mewn nyrsio, bydwreigiaeth, gwaith cymdeithasol, gwyddor barafeddygol, gwyddor feddygol, therapi galwedigaethol, therapi iaith a lleferydd, addysgu neu seicoleg, neu ddod o hyd i gyflogaeth mewn gwaith gofal.