Skip to main content
Lansio ymgyrch DYMA FI i herio stereoteipio ar sail rhywedd ac atal camdriniaeth

Lansio ymgyrch DYMA FI i herio stereoteipio ar sail rhywedd ac atal camdriniaeth

Heddiw lansiwyd ymgyrch newydd gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â rhai o'r rhesymau y tu ôl i drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Mae'r hysbysebion teledu, radio ac ar-lein yn dangos pobl mewn sefyllfaoedd sy'n herio ein syniadau am rywedd. Er enghraifft, dyn yn gweithio fel bydwraig, menyw'n gweithio fel peiriannydd, dyn ifanc yn rhoi colur ymlaen yn gelfydd a merch fach yn chwarae gyda thryc, a mwd drosti.

Caiff pobl ei hannog i fod yn rhan o'r ymgyrch drwy siarad am eu profiadau a'u cysyniadau o stereoteipio drwy ddefnyddio #dymafi.

Mae'r ymgyrch hon yn rhan o ymgyrch Byw Heb Ofn Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae'n rhan o ymgyrch mwy hirdymor a fydd yn ehangu dros amser i ystyried achosion a chanlyniadau eraill camdriniaeth a thrais.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda goroeswyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, a hefyd arbenigwyr pwnc, i ddatblygu ymgyrch sy'n ymdrin â'r rhesymau y tu ôl i gamdriniaeth.

Dywedodd Julie James AC, Arweinydd y Tŷ: "Mae'r ymgyrch DYMA FI yn rhan o'n hymrwymiad parhaus i gael gwared ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru. Mae anghydraddoldeb rhwng y rhywiau yn achosi'r gamdriniaeth a'r trais hwn ac yn ganlyniad iddo.

Mae'r ymgyrch yn defnyddio enghreifftiau cadarnhaol i herio stereoteipio ar sail rhywedd ac yn dangos bod gan bawb yr hawl i fod yr hyn y maent yn dymuno bod a chyflawni eu potensial.

Rwy'n gobeithio y bydd DYMA FI yn ysgogi trafodaeth am stereoteipio ar sail rhywedd ac rwyf am i bobl gymryd rhan yn yr ymgyrch drwy siarad am eu profiadau eu hunain. Mae pawb yng Nghymru'n haeddu byw heb ofni stereoteipio ar sail rhywedd a chamdriniaeth.

Mae Yasmin Khan a Nazir Afzal, Cynghorwyr Cenedlaethol newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer Trais yn erbyn Menywod, Trais ar sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, yn cefnogi'r ymgyrch.

Dywedodd Yasmin Khan: "Gall y byd deimlo'n wahanol yn dibynnu ar eich rhywedd - gall rhywedd effeithio ar ba mor ddiogel rydym yn ei deimlo, lle rydym yn mynd, pa swydd rydym yn teimlo y gallwn wneud cais amdani, ac ar yr hyn y mae bobl yn ei ddisgwyl gennym. Mae'r heriau a wynebir yn sgil stereoteipio ar sail rhywedd ac anghydraddoldeb rhwng y rhywiau yn cyfyngu ar ein gallu ni i gyd, ac yn rhoi pwysau arnom i gadw at werthoedd traddodiadol sydd wedi dyddio ac yn gwbl amherthnasol i'r Gymru sydd ohoni heddiw.

Dywedodd Nazir Afzal: "Dyma'r cam cyntaf mewn ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o'r rhesymau y tu ôl i drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, er mwyn herio'r syniadau a'r ymddygiadau hyn a helpu i greu cymdeithas nad yw'n goddef y gweithredoedd atgas hyn."

Mae Emma Renold, Athro Astudiaethau Plentyndod ym Mhrifysgol Caerdydd, yn aelod o'r grŵp rhanddeiliaid a helpodd i ddatblygu'r ymgyrch.

Dywedodd Emma Renold: "Herio effaith arferion rhywedd mewn ffordd ddiogel a chreadigol yw'r ffordd i fynd i'r afael â phob math o drais ar sail rhyw a thrais rhywiol. Mae hyn yn golygu cydweithio i sicrhau tegwch a chydraddoldeb rhwng y rhywiau i bawb.

Mae Reuben de Maid, vlogiwr YouTube, hefyd yn cefnogi'r ymgyrch: "Rwy'n credu y dylai pawb deimlo'n rhydd i fod yn nhw'u hunain. Mae fy mam wastad wedi dweud wrtha i, fy mrodyr a'm chwaer mai bod yn chi'ch hun yw'r unig ffordd i fod yn hapus. Dyna beth rydym ni i gyd ei eisiau - byw'n hapus a heb ofn. Dyma pam rwy'n annog pawb i gefnogi ymgyrch #dymafi."

Lluniau: Lansio’r prosiect yn swyddogol ar gampws Gorseinon Coleg Gŵyr Abertawe ddydd Llun 29 Ionawr - Adrian White.