Tystysgrif AAT Lefel 2 mewn Cadw Cyfrifon

Rhan-amser
Lefel 2
AAT
Plas Sgeti
21 wythnos
Ymgeisiwch nawr

Trosolwg

Mae Tystysgrif Cymdeithas y Technegwyr Cyfrifyddu (AAT) Lefel 2 mewn Cadw Cyfrifon yn gymhwyster byr sy’n darparu sylfaen drylwyr mewn cadw cyfrifon ac arferion cyfrifyddu sylfaenol, gan gynnwys cofnodi dwbl.  

Mae’n berffaith i’r rhai sydd â gallu naturiol gyda rhifau neu eisoes yn gweithio ym maes cyllid ac yn edrych i ategu hyn gyda chymhwyster. Gyda’r cymhwyster cadw cyfrifon hwn ar eich CV, byddwch mewn sefyllfa berffaith i archwilio’r opsiynau gyrfa rydych chi wedi bod eisiau erioed, naill ai fel rhan o adran gyllid cwmni mwy neu fel gweithiwr proffesiynol annibynnol. 

Unedau: 

Mae’r cwrs Tystysgrif AAT mewn Cadw Cyfrifon yn cwmpasu amrywiaeth o sgiliau cyfrifeg, cyllid a busnes mewn dwy uned orfodol: 

  • Cyflwyniad i Gadw Cyfrifon 
  • Egwyddorion Rheolaethau Cadw Cyfrifon.

Gwybodaeth allweddol

Gofynion Mynediad

Nid yw AAT yn gosod unrhyw ragofynion ar gyfer astudio Tystysgrif AAT mewn Cadw Cyfrifon. Yn ddelfrydol, dylai myfyrwyr feddu ar un neu ddwy Radd A-C ar lefel TGAU, ond mae synnwyr cyffredin a dawn am rifau ac amcangyfrif yn fwy pwysig. Ar agor i fyfyrwyr o bob oedran.

Dull Addysgu’r Cwrs

21 wythnos o addysgu rhan-amser:  

Bob nos Iau (6-9pm) yn Ysgol Fusnes Plas Sgeti

Bydd AAT yn ei gwneud yn ofynnol i bob myfyriwr gofrestru gyda’r corff proffesiynol.  Mae’n bosibl y bydd cyfyngiadau i aelodaeth. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn www.aat.org.uk

Asesu: 

  • Arholiadau ar-lein wedi’u gosod yn allanol.

Cyfleoedd Dilyniant

Bydd y sgiliau cyfrifeg a ddatblygir trwy astudio’r cymhwyster hwn yn rhoi modd i fyfyrwyr geisio cyflogaeth â hyder a/neu symud ymlaen i’r lefel nesaf o ddysgu. 
 
Mae’r sgiliau cyllid, cyfrifeg, busnes a chyfathrebu a ddatblygir ar y cwrs Tystysgrif AAT mewn Cyfrifeg yn gallu arwain at gyflogaeth fel: 

  • Swyddog gweinyddol cyfrifon 
  • Cynorthwyydd cyfrifon 
  • Clerc cyfrifon taladwy 
  • Clerc llyfrau pryniadau/gwerthiannau 
  • Technegydd cyfrifyddu dan hyfforddiant 
  • Cynorthwyydd cyllid dan hyfforddiant.

Bydd yr wybodaeth o gyfrifeg a chyllid a ddatblygir yn y cymhwyster hwn yn rhoi modd i fyfyrwyr symud ymlaen i gymwysterau Diploma Lefel 3 mewn Cyfrifeg a Diploma Lefel 4 mewn Cyfrifeg Broffesiynol.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae ffioedd cwrs yn berthnasol. Prisiau ar gael ar gais.  

Ffôn: Tîm cyfrifeg 01792 284097 

E-bost: accountancy@coleggwyrabertawe.ac.uk

 
Diolch am eich diddordeb yn y cwrs hwn. Ar hyn o bryd nid oes unrhyw ddosbarthiadau ar gael felly dewch yn ôl yn fuan i gael dyddiadau ac amserau eraill.