Crochenwaith a Serameg
Trosolwg
Mae’r pwyslais ar y cwrs hwn yn seiliedig ar dechnegau crochenwaith a serameg traddodiadol.
Y syniad yw mwynhau’r profiad o weithio gyda deunyddiau clai a serameg, datblygu arddull artistig unigol ac ennill gwybodaeth trwy ymarfer pleserus. Drwy gydol y cwrs cewch gyfle i arbrofi ymhellach gyda’r technegau hyn.
Mae’r cwrs hefyd yn archwilio prosesau addurno, gwydro a thanio traddodiadol a chyfoes, a thechnegau adeiladu â’r dwylo, taflu a chastin slip.
Rhoddir arddangosiadau trwy gydol y cwrs gan eich annog i adeiladu ar eich sgiliau a datblygu eich dull eich hun. Mae’r cwrs yn addas ar gyfer dechreuwyr yn ogystal â’r rhai sydd â rhywfaint o brofiad crochenwaith a serameg.
Bob wythnos bydd rhaid i chi fynd i ddosbarth dwy awr, byddwn yn egluro pob proses a chewch gefnogaeth a chyngor er mwyn datblygu eich syniadau unigol eich hun, bydd gennych lawer iawn o le ar gyfer hunanfynegiant o fewn paramedrau meini prawf y prosiect.
Cewch eich annog i ddatblygu’ch syniadau mewn llyfr braslunio neu lyfr nodiadau er mwyn cefnogi’ch cynnydd.
Gwybodaeth allweddol
Gofynion Mynediad
Nid oes rhaid meddu ar safon benodol o allu na gwybodaeth o serameg na chrochenwaith, dim ond agwedd frwdfrydig, greadigol. O ganlyniad, bydd technegau a’r defnydd gorau o ddeunyddiau yn dibynnu yn naturiol ar anghenion myfyrwyr, ac wedi’u hannog a’u galluogi gan y tiwtor fesul unigolyn.
Gwybodaeth Ychwanegol
Ffi stiwdio £10.
Detailed course information
Where and when can I study?
Start Date: Tue 9 Jan 2024 | Course Code: ZB042 ELB2 | Cost: £220
Start Date: Tue 9 Apr 2024 | Course Code: ZB042 ELB3 | Cost: £220