Cynnal a Chadw Beiciau Proffesiynol - CDP
Trosolwg
Mae’r cwrs hwn yn darparu hyfforddiant ac asesiad llawn ym meysydd cydosod, paratoi a gwasanaethu a chynnal a chadw parhaus.
Beth yw cynnwys y cwrs?
- Iechyd a diogelwch yn y gweithdy
- Pensetiau, gerau, breciau camog, hybiau a berynnau
- Cyflwyniad i freciau disg a gwaedu hydrolig
- Gerau hybiau mewnol
- Cywiro olwynion ac adnewyddu sbôcs
- Adeiladu olwynion
05/10/22
Gwybodaeth allweddol
Gofynion Mynediad
Bydd rhaid i chi fod wedi cwblhau cwrs Cynnal a Chadw Beiciau Proffesiynol Lefel 1. Rydyn ni’n cynnig cwrs cyfunol Cynnal a Chadw Beiciau Proffesiynol Lefel 1 a 2 (dros bythefnos).
Dull Addysgu’r Cwrs
Bydd y cwrs yn cael ei addysgu yn ein cyfleuster arbenigol newydd. Mae’r cwrs yn para un wythnos, dydd Llun i ddydd Gwener.
Bydd yr asesu’n digwydd yn nes ymlaen ar ddyddiad arall (gan gwmni allanol o’r enw Activate Cycle Academy) i Cytech Lefel 2. Bydd yr aseswr yn ymweld â’n cyfleuster hyfforddiant i gynnal yr asesiad. Byddwn ni’n rhoi’r dyddiad hwn yn ystod yr hyfforddiant.
Cyfleoedd Dilyniant
Rydyn ni hefyd yn addysgu cyrsiau cynnal a chadw e-feiciau.
Gwybodaeth Ychwanegol
Byddwn ni’n darparu beic ac offer yn ystod y cwrs. Mae cyllid CDP ar gael i dalu am gost y cwrs. I wybod rhagor ac i wirio a ydych yn gymwys ewch i Cyfrifon Dysgu Personol
Detailed course information
Where and when can I study?
Start Date: Mon 20 Nov 2023 | Course Code: ZA247 SJP8 | Cost: £0
Start Date: Mon 29 Jan 2024 | Course Code: ZA247 SJP10 | Cost: £0
Start Date: Mon 26 Feb 2024 | Course Code: ZA247 SJP27 | Cost: £0
Start Date: Mon 18 Mar 2024 | Course Code: ZA247 SJP28 | Cost: £0
Start Date: Mon 29 Apr 2024 | Course Code: ZA247 SJP29 | Cost: £0
Start Date: Mon 20 May 2024 | Course Code: ZA247 SJP30 | Cost: £0
Start Date: Mon 15 Jul 2024 | Course Code: ZA247 SJP31 | Cost: £0