Trosolwg o’r Cwrs
Ers mis Medi 2021, mae rhaid i bawb sy'n gyfrifol am lleoliad gofal plant rhwng 0-12 oed feddu:
- Cymhwyster gofal plant Lefel 3, a
- Chymhwyster gwaith chwarae Lefel 3 neu ddyfarniad llai fel y cydnabyddir ar Restr SkillsActive.
Mae’r cymhwyster hwn yn seiliedig ar y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Gwaith Chwarae a bydd yn datblygu’r wybodaeth sydd ei hangen wrth weithio mewn lleoliadau gwaith chwarae. Mae’n rhoi sylw i’r damcaniaethau a’r egwyddorion chwarae a gwaith chwarae, rheoli risg a sut i gefnogi anghenion a hawliau plant i greu amgylcheddau chwarae amrywiol.
Diweddarwyd Ionawr 2023.
Gofynion Mynediad
Mae rhaid i chi fod 18 oed neu dros a fod wedi cyflawni cymhwyster blynyddoedd cynnar Lefel 3 addas fel Diploma Lefel 3 mewn Gofal Plant ac Addysg.
Dull Addysgu’r Cwrs
Rhaid i ddysgwyr gyflawni dwy uned orfodol sy'n gyfanswm o 12 credyd.
- Uned 1 - Deall y damcaniaethau sy'n sail i ymarfer gwaith chwarae
- Uned 2 - Deall agweddau ar ymarfer gwaith chwarae
Cyfleoedd Dilyniant
Gallai cyflogaeth addas gynnwys: ymarferydd gwaith chwarae ysbyty; ymarferydd clwb gwyliau; ymarferydd clwb ar ôl ysgol; ymarferydd canolfan antur