Skip to main content

Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant (Ymarfer)

Rhan-amser
Lefel 2
C&G
Tycoch
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Arolwg

Er mwyn astudio’r cymhwyster hwn, rhaid eich bod wedi cwblhau cwrs Lefel 2 (Craidd) mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant. Rydym hefyd yn cynnig hwn fel rhan o raglen brentisiaeth.

Rhaglen flwyddyn yw hon sy’n arwain at gymhwyster cydnabyddedig. Bydd dysgwyr naill ai’n cwblhau neu eisoes wedi cwblhau’r cwrs mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant. Mae’r elfen ymarfer yn eich cyflwyno i faes galwedigaethol, sy’n rhoi modd i chi ddatblygu cymhwysedd galwedigaethol ar gyfer gwaith yn y sector Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant, trwy bresenoldeb ac asesiad yn y gweithle.

Gallwch chi ddilyn y cymhwyster hwn fel aelod o staff sydd newydd gael ei gyflogi yn y sector Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant neu fel gwirfoddolwr. Mae’r cwrs yn cwmpasu datblygiad o 0-19 ond bydd angen i chi fod yn gweithio gyda phlant yn y sector gofal plant yn hytrach na’r sector addysg.

Mae’r cymhwyster hwn yn seiliedig ar ymarfer ac mae’n asesu gwybodaeth a chymhwysedd dysgwyr i ymarfer mewn cyflogaeth neu leoliad gwaith.

Mae pedair uned orfodol (25 credyd):

  • 200 Cefnogi ymarfer craidd mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant
  • 201 Cefnogi chwarae, dysgu, twf a datblygiad
  • 202 Cefnogi maeth a hydradiad yn y blynyddoedd cynnar
  • 203 Ymateb i arwyddion o salwch posibl a phla/haint

Yna byddwch yn dewis unedau (10 credyd) i adlewyrchu ystod oedran y plant (Dewisol A) a’r lleoliad gwaith (Dewisol B/C) y mae’r dysgwr yn dilyn y cymhwyster ynddo.

Ychwanegwyd Medi 2020

Gwybodaeth allweddol

Nid oes gofynion mynediad ffurfiol.

Bydd rhaid i ddysgwyr gwblhau cwrs Craidd Lefel 2 mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant cyn y pedwar asesiad ffurfiol yn y lleoliad gwaith. Bydd angen gwir ddiddordeb ar ddysgwyr mewn gweithio yn y sector a dylent ddangos ymrwymiad a brwdfrydedd. Mae angen i ddysgwyr fod yn ddibynadwy, yn onest, yn llawn cymhelliant ac yn hunanddibynnol.

Dylai dysgwyr fod yn 16 oed o leiaf.

I ddilyn cwrs prentisiaeth byddai angen i chi gael eich cyflogi am o leiaf 16 awr yr wythnos mewn lleoliad blynyddoedd cynnar addas.

Bydd cymhwyster Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant (Ymarfer) Lefel 2 yn cael ei asesu’n fewnol trwy gyfres o weithgareddau asesu. Ni fydd unrhyw asesiad ffurfiol yn digwydd nes eich bod wedi cwblhau’r cymhwyster craidd a bod eich parodrwydd ar gyfer asesu wedi cael ei gytuno â’r lleoliad. Asesir cymhwysedd yn y gweithle/lleoliad gwaith gan aseswr cymwysedig.

Disgwylir i ddysgwyr gwblhau cofnod myfyriol yn rheolaidd dros gyfnod eich cymhwyster, gan fyfyrio ar eich ymarfer wrth weithio gyda’r plant yn y lleoliad a nodi unrhyw un o’ch anghenion datblygu eich hun i drafod ymhellach gyda rheolwr/aseswr y lleoliad. Bydd gofyn i chi hefyd gadw portffolio o dystiolaeth yn ystod y cyfnod asesu.

Yn ystod y cyfnod asesu chwe mis bydd gofyn i chi hefyd gynllunio, gweithredu ac adolygu pedwar cyfle/profiad sy’n addas ar gyfer y plant rydych yn eu cefnogi, gyda’r nod o gefnogi eu datblygiad cyfannol.

Ar draws y pedwar cyfle/profiad, rhaid i chi ddangos sut rydych chi’n:

  • cefnogi plentyn (neu blant) yn ystod cyfnod trosglwyddo
  • cefnogi cyfle/profiad mewn amgylchedd allanol
  • cefnogi cyfle/profiad mewn amgylchedd mewnol
  • cefnogi cyfle/profiad nad yw’n arferol
  • cefnogi plentyn ar sail un i un
  • cefnogi cyfle/profiad sy’n cynnwys mwy nag un plentyn.

Bydd dysgwyr yn mynychu’r coleg o fis Chwefror ar gyfer un sesiwn dwy awr yr wythnos naill ai ar ddydd Llun 12pm-2pm neu ar ddydd Mawrth 5pm-7pm ar ôl cwblhau’r cymhwyster Craidd ar Lefel 2. (Oherwydd cyfyngiadau a chanllawiau cyfredol, gellir newid amserau mynychu sesiynau)

Mae’r cwrs yn cynnwys lleoliad gwaith gorfodol o 300 awr o leiaf drwy gydol y rhaglen (o leiaf 10 awr yr wythnos yn dechrau ym mis Medi os ydych yn dewis ei gwblhau dros flwyddyn).

Bydd dysgwyr yn dilyn y polisïau a’r gweithdrefnau arferol sy’n weithredol yn y sefydliad/lleoliad gwaith, gan ddangos yr egwyddorion, y gwerthoedd a’r ymddygiadau allweddol sy’n sail i ofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant yn y sector hwnnw.

Gallech chi symud ymlaen i: 

  • Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant Lefel 3: (Ymarfer)
  • Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant Lefel 3: (Ymarfer a Theori)

Ymhlith y cyfleoedd cyflogaeth mae: nyrs feithrin, cynorthwyydd meithrin, cynorthwyydd cylch chwarae, cynorthwyydd Cylch Meithrin

Sylwch fod Gofal Cymdeithasol Cymru yn mynnu bod angen y cymwysterau canlynol ar unigolion sy’n gweithio yn y sector iechyd a gofal plant

  • Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant Lefel 2: Craidd
  • Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant Lefel 2: Ymarfer

er mwyn gweithio mewn rolau penodol. Ewch i’w gwefan i gael gwybodaeth ychwanegol.

Codir tâl ar ddysgwyr ar y cwrs hwn am wiriad cofnodion troseddol manwl yn unol â gofynion y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd [DBS]. Y gost gyfredol yw £44.