Dyfarniad SEG mewn Ffasiwn a Thecstilau
Trosolwg
Mae dyfarniad SEG Lefel 1 mewn Ffasiwn a Thecstilau yn gwrs blwyddyn sy’n dechrau ym mis Medi. Mae’r dyfarniad wedi’i ddatblygu gyda'r prif nod o alluogi dysgwyr i ennill y sgiliau a’r wybodaeth sylfaenol i symud ymlaen i addysg bellach/hyfforddiant neu gyflogaeth yn y diwydiannau ffasiwn a thecstilau.
Byddwch yn astudio dwy uned sy’n werth 6 chredyd yr un, i gael y dyfarniad llawn sy’n gyfanswm o 12 credyd.
UNED 1: Creu Patrymau (6 chredyd - 60 awr)
Yn yr uned hon, bydd dysgwyr yn datblygu sgiliau sylfaenol a dealltwriaeth o adeiladu patrymau gwastad. Byddan nhw’n ennill gwybodaeth ddamcaniaethol ac ymarferol o gynllunio lleyg a gwerthfawrogiad o economi ffabrig. Byddan nhw’n atgyfnerthu'r wybodaeth a enillwyd fel sylfaen ar gyfer cynnydd pellach ac yn deall pwysigrwydd diogelwch mewn ystafell waith.
UNED 2: Creu Dillad (6 chredyd - 60 awr)
Yn yr uned hon, bydd dysgwyr yn datblygu gwybodaeth dechnegol mewn creu dillad ac yn datblygu sgiliau sylfaenol wrth ddefnyddio peiriannau gwnïo diwydiannol. Byddan nhw’n datblygu dealltwriaeth o fanylebau gweithgynhyrchu a gofynion ansawdd ac yn datblygu deheurwydd a gwybodaeth dechnegol mewn peiriannu a gwasgu, mewn amrywiaeth o ffabrigau. Bydd dysgwyr yn dod i ddeall pwysigrwydd rhyngwynebu wrth wneud dilledyn a'r dewis cywir o nodwydd ac edau mewn perthynas â ffabrigau amrywiol. Byddan nhw’n dangos gwybodaeth am namau peiriannu a’u datrys ac yn deall pwysigrwydd diogelwch mewn ystafell waith.
Amcanion y Cwrs:
• Rhoi sgiliau proffesiynol i greu ac addasu eich patrymau dilledyn eich hun.
• Deall egwyddorion gweithgynhyrchu dilledyn, gan greu amrywiaeth o samplau gwnïo sy'n addas ar gyfer dillad.
• Byddwch yn dysgu sut i weithgynhyrchu dillad ffasiwn, dilyn iechyd a diogelwch a deall gwiriadau rheoli ansawdd.
Canlyniadau’r Cwrs:
• Byddwch yn cynhyrchu portffolio proffesiynol o dystiolaeth yn cofnodi eich gwaith o bob uned.
• Byddwch yn defnyddio ac yn addasu patrymau sgert, bodis, llewys a choler.
• Byddwch yn cynhyrchu patrwm dilledyn gorffenedig ar raddfa lawn.
• Byddwch yn cynhyrchu set o samplau gweithgynhyrchu dilledyn.
• Byddwch hefyd yn cynhyrchu dau ddilledyn maint llawn gorffenedig.
Gwybodaeth allweddol
Gofynion Mynediad
Nid oes angen profiad, ond mae diddordeb yn y maes pwnc yn fanteisiol.
Cyfleoedd Dilyniant
Bydd cwblhau'r cwrs hwn yn rhoi modd i chi symud ymlaen i ddyfarniad SEG Lefel 2 mewn Ffasiwn a Thecstilau.
Gallai dilyniant o unrhyw gwrs rhan-amser gynnig llwybr i gyrsiau amser llawn mewn celf a dylunio. Yn achos dysgwyr sy'n oedolion sy'n ystyried gyrfa greadigol, gallai'r cwrs Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio ddarparu llwybr dilyniant ar gyfer hyn.
Gwybodaeth Ychwanegol
Asesiad/Gwaith Cwrs:
• Portffolio Tystiolaeth wedi'i gwblhau
• Patrwm
• Dillad Ffasiwn
Meini Prawf Graddio:
• Portffolio Tystiolaeth: 100%