Cyflogres Gyfrifiadurol Lefel 2

Rhan-amser
Lefel 2
AGORED
Plas Sgeti
30 hours tuition normally over 10 weeks on a Thursday evening 18.00 to 21.00.
Ymgeisiwch nawr

Trosolwg

Mae’r cwrs hwn yn gyflwyniad i becynnau cyfrifiadurol SAGE gan ddefnyddio meddalwedd Sage Line 50 Financial Controller, un o’r pecynnau meddalwedd Cyfrifeg sy’n tyfu fwyaf yn y DU.

Manylion Astudio
Gwaith cyfrifiadurol ymarferol sy’n cyfuno gwaith theori a defnyddio Cyfrifeg gyfrifiadurol ymarferol Sage Line 50 gan gynnwys:

  • Cynhyrchu slipiau cyflog
  • Cofnodi manylion staff
  • Newidiadau i gyfraddau treth, cyfraddau YG, SMP, SSP, SPP, SAP
  • Cynllunwyr gwyliau
  • Cynlluniau pensiwn
  • Amrywiadau i’r gyflogres fel goramser, bonysau, comisiynau, treuliau
  • Ffurflenni P11, P32, P35, P45 ac ati
  • Cyfrifiadau diwedd blwyddyn a chwblhau ffurflenni CThEM

    06/07/22

Gwybodaeth allweddol

Gofynion Mynediad

Profiad o gyflogres â llaw yn ddymunol ond nid yw’n hanfodol. Disgwylir i bob myfyriwr feddu ar sgiliau cyfrifiadurol ar lefel sylfaenol. Ar agor i fyfyrwyr o bob oedran.

Dull Addysgu’r Cwrs

Addysgir y cwrs trwy ddarlithoedd ystafell ddosbarth gan aelodau o staff cymwysedig a phrofiadol. Mae asesiad byr terfynol yn ogystal â phortffolio o dystiolaeth wedi’i ddarparu gan y myfyriwr.

Cyfleoedd Dilyniant

Cyfle i symud ymlaen i gyrsiau Cymdeithas Technegwyr Cyfrifyddu mewn Cyfrifeg. Mae’r cwrs hefyd yn darparu cymhwyster y mae cyflogwyr yn chwilio amdano.

 
Diolch am eich diddordeb yn y cwrs hwn. Ar hyn o bryd nid oes unrhyw ddosbarthiadau ar gael felly dewch yn ôl yn fuan i gael dyddiadau ac amserau eraill.