Diploma AAT Lefel 4 mewn Cyfrifeg Broffesiynol

Rhan-amser, HE
Lefel 4
AAT
Plas Sgeti
34 wythnos
Ymgeisiwch nawr

Trosolwg

Mae Diploma Cymdeithas y Technegwyr Cyfrifyddu (AAT) Lefel 4 mewn Cyfrifeg Broffesiynol yn gwrs cyfrifeg lefel uchel sy’n galluogi myfyrwyr i feistroli tasgau cyfrifyddu cymhleth, cymhwyso ar gyfer rolau cyllid uwch, ac ennill aelodaeth lawn o AAT. 

Ar y lefel hon byddwch yn astudio ystod eang o sgiliau a chymwysiadau rheoli ariannol a bod yn gyfforddus â nhw, a byddwch yn ennill cymwyseddau wrth ddrafftio datganiadau ariannol ar gyfer cwmnïau cyfyngedig, argymell strategaethau systemau cyfrifyddu a llunio a chyflwyno adroddiadau cyfrifyddu rheoli cymhleth.  

Byddwch hefyd yn dysgu am feysydd arbenigol fel treth, archwilio, rheoli credyd a debyd a rheoli arian parod a rheolaeth ariannol.  

Mae themâu allweddol hefyd yn cael eu cyflwyno drwy gydol y gyfres o gymwysterau cyfrifyddu, gan gynnwys technoleg, moeseg, cynaliadwyedd a chyfathrebu. 

Unedau: 

Mae Diploma AAT mewn Cyfrifeg Broffesiynol yn cynnwys yr unedau canlynol: 

  • Cyfrifeg Rheolaeth Gymhwysol 
  • Drafftio a Dehongli Datganiadau Ariannol 
  • Systemau a Rheolaethau Cyfrifo Mewnol 
  • Treth Bersonol 
  • Treth Busnes 
  • Archwilio a Sicrwydd 
  • Rheoli Credyd a Debyd 
  • Rheoli Arian Parod a Rheolaeth Ariannol.

Gwybodaeth allweddol

Gofynion Mynediad

Cwblhau cymhwyster AAT Diploma Lefel 3 mewn Cyfrifeg neu gymwysterau cyfrifeg cyfwerth. Mae’r cymhwyster hwn yn addas i’r rhai sydd angen cydnabyddiaeth ffurfiol o’u sgiliau neu a hoffai fod yn aelod llawn o AAT. Ar agor i fyfyrwyr o bob oedran. 

Bydd AAT yn ei gwneud yn ofynnol i bob myfyriwr gofrestru gyda’r corff proffesiynol.  Mae’n bosibl y bydd cyfyngiadau i aelodaeth. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn www.aat.org.uk. 

Dull Addysgu’r Cwrs

34 wythnos o addysgu rhan-amser:  

Bob dydd Iau (9am-4.30pm) yn Ysgol Fusnes Plas Sgeti 

Neu 

Bob dydd Iau (1.30pm-9pm) yn Ysgol Fusnes Plas Sgeti

Asesu: 

  • Arholiadau ar-lein wedi’u gosod yn allanol.

Cyfleoedd Dilyniant

Bydd y sgiliau cyfrifeg a ddatblygir trwy astudio’r cymhwyster hwn yn rhoi modd i fyfyrwyr geisio cyflogaeth â hyder a/neu symud ymlaen i’r lefel nesaf o ddysgu. 
 
Mae’r sgiliau cyllid, cyfrifeg, busnes a chyfathrebu a ddatblygir ar y cwrs Diploma AAT mewn Cyfrifeg yn gallu arwain at gyflogaeth fel: 

  • Technegydd Cyfrifyddu Proffesiynol 
  • Uwch Swyddog Ariannol 
  • Cyfrifydd Costau 
  • Uwch Geidwad Llyfrau 
  • Rheolwr Cyflogres 
  • Cyfrifydd Ariannol Cynorthwyol.

Bydd yr wybodaeth o gyfrifeg a chyllid a ddatblygir yn y cymhwyster hwn yn rhoi modd i fyfyrwyr symud ymlaen i gymwysterau cyfrifeg proffesiynol pellach (efallai y bydd eithriadau) neu radd. 

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae ffioedd cwrs yn berthnasol. Prisiau ar gael ar gais.  

Ffôn: Tîm cyfrifeg 01792 284097  

E-bost: accountancy@coleggwyrabertawe.ac.uk