Trosolwg o’r Cwrs
Mae’r cwrs hwn yn cwmpasu cymhwyso sglein gel i wella’r ewin naturiol heb estyniad, gan ddarparu sglein nad yw’n smwtsio ac sy’n para’n hwy a defnyddio technoleg uwch-fioled.
Mae modiwlau’r cwrs yn cynnwys:
• Iechyd, diogelwch a hylendid
• Paratoi man cleientiaid a man gwaith
• Ymgynghori â chleientiaid
• Gwrthrybuddion a gwrthweithredoedd
• Cymhwyso a thynnu sglein gel
• Ffurfiant y croen
• Cyngor ôl-ofal
Diweddarwyd Tachwedd 2018
Gofynion Mynediad
Dylai myfyrwyr fod â chymhwyster Triniaethau Dwylo Lefel 2.
Dull Addysgu’r Cwrs
Bydd y tiwtor yn arddangos y driniaeth, a bydd dysgwyr wedyn yn ymarfer y driniaeth ar eu model gan ddefnyddio lliw a sglein gel Ffrengig. Bydd dysgwyr yn dysgu sut i dynnu’r sglein gel yn ddiogel ac yn effeithiol. Caiff dysgwyr eu hasesu ar eu technegau ymarferol a thrwy asesiad ysgrifenedig.
Cyfleoedd Dilyniant
Bydd myfyrwyr yn gallu darparu gwasanaeth sglein gel uwch-fioled i’w cleientiaid. Efallai y bydd myfyrwyr am wneud cais i astudio cwrs harddwch rhan-amser neu amser llawn yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.
Gwybodaeth Ychwanegol
Rhaid i bob myfyriwr ddod i sesiwn arweiniad gorfodol cyn cofrestru. Ffoniwch ni ar 01792 284049 i gael dyddiadau ac amserau. Bydd disgwyl i fyfyrwyr wisgo trwser du hyd llawn, esgidiau du caeedig gwastad a thop/tiwnig du plaen.