Skip to main content

TGAU Bioleg

Rhan-amser
Lefel 2
GCSE
Tycoch
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Arolwg

Mae’r cwrs (CBAC TGAU Bioleg) yn cynnwys tair uned; mae dwy ohonynt yn edrych ar bwnc bioleg gwahanol ac mae’r drydedd uned yn profi sgiliau gwyddonol.

Asesir y cwrs drwy ddau arholiad – un ar gyfer uned 1 ac un ar gyfer uned 2 (mae pob arholiad yn cyfrif am 45% o farciau’r cwrs sy’n gwneud cyfanswm o 90%). Mae ‘asesiadau ymarferol’ yn cael eu cwblhau yn y dosbarth (10% o farciau’r cwrs).

Mae’r cwrs yn rhedeg am 2.5 awr yr wythnos am 30 wythnos.

Bydd rhaid i fyfyrwyr gwbhlau nifer sylweddol o oriau astudio yn ystod eu hamser eu hunain.

Gwybodaeth allweddol

Nid oes angen cymwysterau. Bydd rhaid i fyfyrwyr fabwysiadu ymagwedd resymegol a mathemategol at eu hastudiaethau.

Uned 1: CELLOEDD, SYSTEMAU ORGANAU AC ECOSYSTEMAU

Arholiad ysgrifenedig: 1 awr 45 munud 45% o’r cymhwyster

Mae’r uned hon yn cynnwys y pynciau canlynol:

  1. Celloedd a symudiad ar draws cellbilenni
  2. Y system resbiradol mewn bodau dynol
  3. Y system dreulio mewn bodau dynol
  4. Y system cylchrediad gwaed mewn bodau dynol
  5. Planhigion a ffotosynthesis
  6. Ecosystemau, cylchredau maetholion ac effaith dyn ar yr amgylchedd

Uned 2: AMRYWIAD, HOMEOSTASIS A MICRO-ORGANEBAU

Arholiad ysgrifenedig: 1 awr 45 munud 45% o’r cymhwyster

Mae’r uned hon yn cynnwys y pynciau canlynol:

  1. Dosbarthiad a bioamrywiaeth
  2. Cellraniad a chelloedd bonyn
  3. DNA ac etifeddiad
  4. Amrywiad ac esblygiad
  5. Ymateb a rheoli
  6. Arennau a homeostasis
  7. Micro-organebau a chlefydau
  8. Clefydau, amddiffyn a thriniaeth

Uned 3: ASESIAD YMARFEROL 10% o’r cymhwyster

  1. Adran A – Cael canlyniadau
  2. Adran B – Dadansoddi a gwerthuso canlyniadau

Mae rhagor o fanylion i’w gweld ar wefan CBAC TGAU Gwyddoniaeth.

Mae TGAU Bioleg yn cynnig cymhwyster TGAU mewn gwyddoniaeth sy’n ofynnol ar gyfer cyrsiau hyfforddi athrawon. Byddai dilyniant i gyrsiau Gwyddoniaeth Lefel 3 megis Safon Uwch a BTEC yn bosibl.