Skip to main content

Coleg yn croesawu ysgolion lleol ar gyfer sioe deithiol cogyddion

Roedd 120 o ddisgyblion o chwe ysgol yn Abertawe wedi mwynhau diwrnod blasu lletygarwch yng Ngholeg Gŵyr Abertawe ddydd Mawrth 14 Mawrth.

Trefnwyd yr achlysur arbennig rhad ac am ddim gan The Chefs’ Forum ac roedd yn gyfle i’r Coleg groesawu disgyblion ysgol a rhoi blas iddynt ar yr hyn sydd i’w ddisgwyl ar gwrs arlwyo.

“Rydyn ni’n galw’r achlysur yn gipolwg ar fyd y diwydiant lletygarwch,” dywedodd Cyfarwyddwr The Chef’s Forum Catherine Farinha. “Cawson ni amrywiaeth gwych o ben-cogyddion a gweithwyr proffesynol blaen y tŷ. Roedd y myfyrwyr wedi mwynhau mas draw!”

Cyn-fyfyriwr arlwyo yn dychwelyd i’r Coleg

Croesawodd y myfyrwyr a’r staff arlwyo y cyn-fyfyriwr arlwyo, Nick Jones, yn ôl i’r Coleg i arddangos ei sgiliau coginio i’r myfyrwyr mis diwethaf.

Darparodd Nick, a dechreuodd astudio Diploma mewn Cyflwyniad i Goginio Proffesiynol Lefel 1 a gorffen gyda chwrs Diploma mewn Coginio Proffesiynol Uwch (Cegin a Phantri) lefel 3, arddangosiad coginio gydag Academi Fforwm y Cogyddion.

Myfyrwyr yn cael blas ar yrfa cogydd enwog

Mae cogydd eiconig o Brydain wedi rhoi cipolwg sydyn y tu ôl i’r llenni i grŵp o fyfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe ar ei fwyty yn Abertawe yn ogystal â rhoi blas iddynt ar ei yrfa ysbrydoledig.

Fe wnaeth Marco Pierre White, a agorodd ei Steakhouse Bar & Grill y llynedd yn y J-Shed yn SA1, gwrdd â phedwar myfyriwr o adran Arlwyo a Lletygarwch y Coleg.

Cafodd Mr Pierre White drafodaeth anffurfiol gyda’r myfyrwyr am ei yrfa, y diwydiant a rhoddodd awgrymiadau a chynghorion amhrisiadwy o’r grefft.