Skip to main content

Coleg Gŵyr Abertawe wedi ennill Gwobr Aur y Safon Iechyd Corfforaethol am les staff!

Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi cael ei gydnabod gan Lywodraeth Cymru am safon uchel iechyd a lles ei staff trwy ennill gwobr Aur y Safon Iechyd Corfforaethol.

Wedi’i rhedeg gan Lywodraeth Cymru trwy Cymru Iach Ar Waith, y Safon Iechyd Corfforaethol yw’r nod ansawdd ar gyfer hyrwyddo iechyd yn y gweithle yng Nghymru. Mae’r safon yn cydnabod arferion da ac yn targedu materion afiechyd ataliol allweddol a blaenoriaethau Her Iechyd Cymru.

Cydnabyddiaeth i staff yn nigwyddiad Gwobrau Gwasanaethau Hirdymor

Yn ddiweddar, cynhaliodd Coleg Gŵyr Abertawe ddigwyddiad llewyrchus yn Stadiwm y Liberty er mwyn anrhydeddu aelodau o staff sydd â dros 20 mlynedd o wasanaeth.

“Dyma’r ail flwyddyn yn olynol i ni gynnal digwyddiad Gwobrau Gwasanaethau Hirdymor. Mae’n bwysig ein bod yn cydnabod ymrwymiad a theyrngarwch cynifer o aelodau’n staff,” meddai Cyfarwyddwr yr Adnoddau Dynol, Sarah King. “Roedd hefyd yn gyfle perffaith i arddangos côr newydd staff y Coleg am y tro cyntaf , a braf yw dweud eu bod wedi creu cryn argraff drwy berfformio mor arbennig.”