Skip to main content

Myfyrwyr Saesneg yn mwynhau darlleniad barddoniaeth arbennig

I ddathlu Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth ar 5 Hydref, roedd myfyrwyr Safon Uwch Saesneg yng Ngholeg Gŵyr Abertawe yn falch dros ben o groesawu’r bardd Guinevere Clark i Gampws Gorseinon.

Cafodd casgliad cyntaf Guinevere, Fresh Fruit & Screams, ei gyhoeddi yn 2006. Ers hynny, mae ei gwaith wedi ymddangos mewn cyhoeddiadau gan gynnwys Minerva Rising, The A3 Review, The Atlanta Review a nawr Magazine.

Myfyrwyr yn trafod gwleidyddiaeth â’r Arglwydd Aberdâr

Yn ddiweddar, cafodd myfyrwyr o Goleg Gŵyr Abertawe gyfle i gwrdd â’r Arglwydd Aberdâr – Alastair John Lyndhurst Bruce – pan ymwelodd â Champws Gorseinon fel rhan o’r rhaglen Dysgu gyda’r Arglwyddi.

Roedd y dysgwyr, sy’n astudio Safon Uwch Llywodraeth a Gwleidyddiaeth a Safon Uwch Y Gyfraith, wedi treulio dros awr gyda’r Arglwydd Aberdâr a chafon nhw gyfle i drafod nifer o bynciau gwleidyddol llosg y dydd ag ef.

Coleg yn croesawu gwestai o Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost

Yn ddiweddar clywodd grŵp o ddysgwyr Hanes U2 dystiolaeth gan oroeswr yr Holocost, Eva Clarke BEM, fel rhan o ymweliad a drefnwyd gan Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost (HET).

Fe wnaethon nhw hefyd gymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb i’w galluogi i ddeall natur yr Holocost yn well ac archwilio ei wersi yn fwy manwl. Roedd yr ymweliad yn rhan o Raglen Allgymorth helaeth HET trwy gydol y flwyddyn, sydd ar gael i ysgolion ledled y DU.