Cyrsiau rhan-amser
P’un ai ydych yn gobeithio rhoi hwb i’ch cyflogadwyedd, newid cyfeiriad eich gyrfa, diweddaru’ch sgiliau neu ddysgu rhywbeth newydd, bydd gennym gwrs rhan-amser i chi yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.
Fel myfyriwr rhan-amser, bydd gennych fynediad llawn i’n staff profiadol sy’n gallu rhoi cyngor i chi ar gyrsiau, gyrfaoedd, cyflogadwyedd, materion personol neu faterion ariannol – ewch i’n tudalen cymorth i fyfyrwyr i wybod rhagor am ystod o ddarpariaeth megis, cymorth arbenigol os oes gennych anghenion dysgu ychwanegol (ADY), cysylltu â’n swyddogion cymorth myfyrwyr; cymorth ariannol megis GDLlC neu React, defnyddio’ch sgiliau Cymraeg yn y Coleg.
Mae ein llyfrgelloedd yn cynnig lleoedd dysgu hyblyg ac anrywiaeth eang o adnoddau megis cyfrifiaduron personol, cyfleusterau argraffu a chopïo, Wi-Fi am ddim a staff gwybodus a chefnogol.
Ddim yn siŵr beth i’w wneud fel gyrfa? Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol yw ein rhaglen cyflogadwyedd, sy’n gallu eich helpu i gael, cadw a symud ymlaen yn eich cyflogaeth. Yn ogystal gallwch ddarganfod pa gyrsiau a gyrfaoedd sy’n cyd-fynd â’ch diddordebau gyda’n Hyfforddwr Gyrfa.
Sicrhewch eich bod yn darllen ein canllawiau ar sut i gofrestru / ymgeisio a ffioedd ar gyfer cyrsiau rhan-amser.
Cyrsiau rhan-amser i ddod
Os mai un o'ch uchelgeisiau ar gyfer 2021 yw rhoi cynnig ar rywbeth newydd, edrychwch ar rai o'r cyrsiau rhan-amser sy'n dechrau'n fuan.
Gweld yr holl gyrsiau sy’n dechrau yn y 180 diwrnod nesafTudalennau
Cyrsiau rhan-amser
Cyfrifon Dysgu Personol
Manteisiwch ar gyrsiau hyblyg, rhad ac am ddim mewn meysydd fel adeiladu, digidol a pheirianneg.