Prentisiaethau Cymru

 

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn un o brif sefydliadau Cymru o ran darparu prentisiaethau,mae gennym gefndir cryf mewn addysg oedolion ac rydym wedi gweithio gyda miloedd o fyfyrwyr yng Nghymru, a nawr yn Lloegr.

Yn ystod y saith mlynedd diwethaf mae 2,996 o fyfyrwyr wedi cwblhau eu prentisiaeth yn llwyddiannus.

Rydym yn cynnig 82 o wahanol lwybrau prentisiaeth o brentisiaethau Lefel 2 i lefel gradd.

Gwobrau  Buddion i brentisiaid   Buddion i gyflogwyr Is-gontractwyr Ymgeisiwch nawr

Gwobrau Prentisiaeth 2023

Cynhaliwyd Gwobrau Prentisiaeth eleni ar ddydd Llun 6 Chwefror 2023.

Rhagor o wybodaeth

Ennill gwobrau

Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer am ddwy Wobr Cynhadledd Prentisiaethau Blynyddol (AAC) y DU 2022:

  • Hyrwyddwr y Flwyddyn SEND (Darparwr) 2022
  • Darparwr y Flwyddyn Prentisiaeth Iechyd a Gofal 2022

Y llynedd, enillodd y Coleg Wobr FE Times Educational Supplement (TES) y DU am Raglen Brentisiaeth y Flwyddyn.

Yn ogystal, fe enillon ni yn nau gategori yng Ngwobrau AAC Blynyddol y DU yn 2021.

  • Darparwr y Flwyddyn Prentisiaeth Peirianneg a Gweithgynhyrchu 2021
  • Darparwr y Flwyddyn Prentisiaeth Ddigidol 2021

Cyn hyn, fe wnaethom ennill yn nau gategori yng Ngwobrau AAC y DU yn 2019.

  • Darparwr y Flwyddyn Prentisiaeth Iechyd a Gwyddoniaeth 2019
  • Cyfraniad Rhagorol at Ddatblygiad Prentisiaethau, Steve Williams 2019

Prentis y Flwyddyn Cymru

Enillodd Sally Hughes o Tata Steel a Choleg Gŵyr Abertawe Wobr Prentis y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2018.

Buddion i brentisiaid

Eich buddion

  • Cewch eich cefnogi gan diwtoriaid cymwysedig a phrofiadol
  • Cael mynediad i hyfforddwr dysgu, gwybodaeth, cyngor ac arweiniad am yrfaoedd
  • Mynediad i'n gwasanaethau llyfrgell
  • Mynediad i Smart Assessor, e-Bortffolio, fel y gallwch weithio'n fwy effeithlon
  • Mynediad i'r Ganolfan Chwaraeon ac aelodaeth am bris rhatach
  • Mwynhau triniaethau yng Nghanolfan Gwallt, Harddwch a Holisteg Broadway am brisiau rhatach
  • Cymhwystra i ymgeisio am gerdyn disgownt myfyriwr UCM Apprenticeship Extra 
  • Mynediad i adnoddau dysgu MoodleCanvas ar gyfer eich astudiaethau.

Smart Assessor

Mae Smart Assessor yn system ar-lein sy'n olrhain holl fanylion eich taith dim ond trwy glicio botwm.

Gallwch

  • Lanlwytho tystiolaeth i'ch aseswr ei gweld a'i marcio
  • Gweld eich cynllun dysgu sy'n dangos eich holl apwyntiadau, targedau ac adolygiadau
  • Gweld y dangosfwrdd sy'n dangos eich cynnydd ac yn rhoi mynediad i adnoddau cwrs 
  • Darparu adborth ar gyfer eich aseswr ar ôl pob apwyntiad
  • Gweld eich e-Bortffolio am saith mlynedd ar ôl cwblhau'ch cymhwyster i ddangos i ddarpar gyflogwyr.

Canvas

Mae Canvas yn amgylchedd dysgu rhithwir sy'n rhoi modd i chi ddefnyddio adnoddau cwrs, mynd i ddarlithoedd o bell, lanlwytho aseiniadau a chael graddau/adborth. Mae ar gael 24/7 a gallwch ei gyrchu o unrhyw ddyfais â chysylltiad rhyngrwyd. 

Gallwch

  • Gyrchu cyflwyniadau mewn amrywiaeth o fformatau amlgyfrwng 
  • Cyrchu ategion Office 365, Google Docs, YouTube, Planet eStream a Twitter 
  • Ymgymryd â dosbarthiadau byw trwy'r system cynadledda Big Blue Button integredig 
  • Cyrchu ystafelloedd sgwrsio cymheiriaid a fforymau trafod 
  • Cyrchu a chreu cwisiau rhyngweithiol 
  • Lanlwytho aseiniadau gyda'r gwiriwr llên-ladrad Turnitin.

Eich lles

Rydym yn ystyriol o'ch lles ac mae gennym amrywiaeth o adnoddau a sesiynau tiwtorial y gellir eu cyrchu ar ein platfformau CanvasMoodle.

Mae Togetherall yn cynnig cymuned ddiogel a di-enw i gysylltu â hi o unrhyw le ac ar unrhyw bryd 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn, p'un a oes angen i chi fwrw'ch bol, eich mynegi'ch hun yn greadigol neu ddysgu sut i reoli'ch iechyd meddwl.

Gyrfaoedd, cyngor ac arweiniad

Mae Gyrfa Cymru yn gallu eich helpu a'ch cefnogi gyda chyngor am ddim, arweiniad a mynediad i hyfforddiant i'ch helpu i gael gwaith neu ddatblygu'ch gyrfa gan gynnwys dod o hyd i gyrsiau/hyfforddiant neu gymorth diswyddo.

Yn ogystal, gallwch gysylltu â'ch hyfforddwr gyrfa sy'n gallu eich rhoi mewn cysylltiad â'n tîm cyflogadwyedd fydd yn eich helpu i ddod o hyd i gyflogaeth neu gyfleoedd datblygu gyrfa.

Swyddi gwag

Os ydych yn chwilio am brentisiaeth ac nid oes cyflogwr gennych, gallwch gael cymorth gan ein tîm cyflogadwyedd.

Bydd rhaid i chi lenwi'r ffurflen gais ar-lein

Yn ogystal, gallwch ddefnyddio'r Gwasanaeth Swyddi Gwag Prentisiaeth i ddarganfod pa gwmnïau sy'n ystyried recriwtio.

Llwybrau prentisiaeth

Porwch drwy ein rhestr o lwybrau prentisiaeth o Lefel 2 (sylfaen) i Lefel 4/5 (uwch).

Buddion i gyflogwyr

Eich buddion

Mae prentisiaethau’n gymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol sy’n bwriadu rhoi sgiliau, gwybodaeth ac ymddygiadau ychwanegol i fyfyrwyr yn y gweithle. Mae prentisiaethau’n cael eu hariannu a’u rheoleiddio gan Lywodraeth Cymru ac mae Estyn yn arolygu eu hansawdd.

  • Cynnydd mewn cynhyrchedd a llinell waelod
  • Gwell moral staff
  • Gwell sylfaen sgiliau yn y cwmni
  • Cyllid/grantiau ar gael mewn rhai achosion
  • Costau llai o ran hyfforddiant a recriwtio
  • Y gallu i lenwi bylchau sgiliau trwy recriwtio talent newydd neu uwchsgilio staff presennol.

Ymrwymiad tair ffordd

Ar ddechrau’r rhaglen brentisiaeth, mae’n ofynnol i bob myfyriwr a chyflogwr lofnodi datganiad ymrwymiad fel bod pawb yn glir ynghylch yr hyn sydd dan sylw. Mae trosolwg o rai o’r ymrwymiadau i’w weld isod.

  • Byddwn yn cyflogi’r prentis yn unol â chyfraith cyflogaeth
  • Byddwn yn rhyddhau ac yn cefnogi dysgu’r prentisiaid yn ystod oriau gwaith, i’w galluogi i gwblhau eu hyfforddiant
  • Byddwn yn talu’r prentis am yr oriau y maen nhw’n dilyn eu hyfforddiant
  • Byddwn yn penodi mentor i weithio gyda’r prentis o ddydd i ddydd a fydd yn darparu hyfforddiant a chymorth
  • Byddwn yn cymryd rhan mewn adolygiadau cynnydd rheolaidd
  • Byddwn yn cyflawni ein rhwymedigaethau iechyd a diogelwch i’r prentis 
  • Byddwn yn hysbysu’r darparwr hyfforddiant am unrhyw ddamweiniau neu bryderon
  • Rydym yn cytuno i staff sy’n cefnogi’r brentisiaeth gwblhau modiwlau ar Prevent

Is-gontractwyr 

Is-gontractwyr

Rydym yn ymgysylltu ag is-gontractwyr i ateb anghenion cwsmeriaid yn well ac i wneud y canlynol:

  • Gweithio gyda darparwyr sy’n cyrraedd dysgwyr â blaenoriaeth yn effeithiol yn y gymuned ac sy’n gallu dangos canlyniadau cadarnhaol
  • Darparu mynediad i/ymgysylltiad ag ystod newydd o gwsmeriaid 
  • Cynorthwyo darparwr arall i ddatblygu gallu/ansawdd
  • Rhoi darpariaeth ychwanegol
  • Gweithio gyda darparwyr sy’n cynnig blaenoriaethau sy’n benodol i’r sector gan gefnogi agendâu sgiliau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol
  • Bydd yr holl is-gontractwyr yn destun diwydrwydd dyladwy y Coleg.

Mae’r Coleg yn cadw ffi reoli sy’n talu cyfran o’r costau uniongyrchol sy’n gysylltiedig â gweithredu a sicrhau ansawdd darpariaeth is-gontractwyr.

Os yw’r is-gontractwr yn is-gwmni i Goleg Gŵyr Abertawe, bydd taliadau gwasanaeth yn cael eu cymhwyso drwy broses gyllidebu flynyddol safonol y Coleg. Mae hyn yn adlewyrchu’r is-gwmni fel un o unedau busnes mewnol y Coleg ac felly, codir tâl canolog am wasanaethau megis llywodraethu, ansawdd a chydymffurfio.

Ym mlwyddyn academaidd 2022/23, ni fydd Coleg Gŵyr Abertawe yn is-gontractio i unrhyw ddarparwyr eraill (Lloegr yn unig).

Cafodd Polisi Ffioedd a Thaliadau Is-gontractio Dysgu Seiliedig ar Waith 2022/23 ei gadarnhau gan y Corff Llywodraethu yng nghyfarfod Bwrdd y Gorfforaeth ar 30 Mehefin 2022.

Prentisiaethau

Mae ceisiadau am brentisiaethau ar agor nawr

Ymgeisiwch nawr!