Skip to main content

Cynnal a Chadw e-Feiciau

Rhan-amser
Llys Jiwbilî

Trosolwg

Bwriedir y cwrs hwn i selogion e-feicio a’i nod yw rhoi’r sgiliau i baratoi beiciau’n ddiogel ar gyfer eu reidio ac i atgyweirio’r problemau mwyaf cyffredin yn ystod taith feic.

Ar y cwrs Cynnal a Chadw Sylfaenol hwn, byddwch yn dysgu:

  • Gwirio offer cyn taith feic
  • Datseimio, glanhau ac iro
  • Breciau – addasu’r ceblau a’r padiau a gosod rhai newydd
  • Gerau – mynegeio, addasu’r ceblau, addasu’r terfyn
  • Trawsyrru – atgyweirio’r gadwyn a gosod un newydd
  • Addasu penset
  • Olwynion – tyllau, atgyweirio teiars
  • Atgyweiriadau brys – delio â’r hyn sy’n gallu mynd o chwith yn ystod taith feic.

Gwybodaeth allweddol

Nid oes angen gofynion mynediad ffurfiol.

Addysgir y cwrs yn ein cyfleuster arbenigol newydd gyda’r hwyr neu dros nifer o ddiwrnodau yn dechrau ym mis Medi 2021.

Os hoffech ennill cymhwyster ffurfiol, gallwch symud ymlaen i gwrs e-feicio Cytech Technegol.

Darperir beiciau ac offer yn ystod y cwrs.

Off