Diploma Estynedig Lefel 3 mewn e-Chwaraeon

Amser llawn
Lefel 3
BTEC Extended Diploma
Tycoch
Dwy flynedd
Ymgeisiwch nawr

Trosolwg

Ar y cwrs hwn, bydd myfyrwyr yn dysgu hanfodion e-Chwaraeon trwy amrywiaeth o brosiectau gwahanol. Bydd myfyrwyr yn gyfrifol am greu portffolio o waith i arddangos eu sgiliau ar draws gwahanol unedau. Bydd yr unedau’n cynnwys Dylunio Gemau, Digwyddiadau e-Chwaraeon, Darllediadau Byw wedi’u Ffrydio, Cyfryngau Cymdeithasol, Brandio, Hyfforddi e-Chwaraeon a rhagor. Mae’r unedau hyn yn rhoi modd i fyfyrwyr ddatblygu eu sgiliau a hyrwyddo eu hunain yn y diwydiant e-Chwaraeon. Byddan nhw’n gallu defnyddio’r gwaith y maen nhw wedi’i greu i hyrwyddo eu sgiliau i ddarpar gyflogwyr. 

Amcanion y Cwrs: 

  • Ennill dealltwriaeth eang o e-Chwaraeon a gallu astudio rhai meysydd yn fanylach 
  • Datblygu sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth o e-Chwaraeon 
  • Dysgu sut i sefydlu, dylunio a brandio timau, logos, nwyddau ac ati 
  • Datblygu a chreu mannau cyfryngau cymdeithasol fel eich sianeli YouTube a Twitch eich hunain 
  • Cael cyfle i gymhwyso dysgu mewn ffordd ymarferol a realistig 
  • Dilyn rhaglen astudio sy’n galluogi dilyniant i addysg uwch a chyflogaeth ym meysydd TGCh, busnes a marchnata 
  • Magu hyder trwy ddatblygu sgiliau dysgu annibynnol 
  • Cymryd rhan mewn digwyddiadau e-Chwaraeon fel British Esports, Insomnia ac ati. 

Deilliannau'r Cwrs:

  • Bydd gan fyfyrwyr wybodaeth o amrywiaeth o agweddau yn y diwydiant e-Chwaraeon 
  • Bydd myfyrwyr yn gallu dewis o blith amrywiaeth o yrfaoedd gan gynnwys hyfforddi, darlledu, y cyfryngau cymdeithasol, marchnata a rheoli digwyddiadau. 

Gwybodaeth allweddol

Gofynion Mynediad

Dull Addysgu’r Cwrs

Asesu: 

Gwaith cwrs.  

Meini Prawf Graddio: 

Pasio, Teilyngdod neu Ragoriaeth. 

Cyfleoedd Dilyniant

Digwyddiadau, Darllediadau Byw wedi’u Ffrydio a rhagor.  

 

Hoffech chi astudio'r cwrs hwn?

Ymgeisiwch nawr!