Skip to main content

Gwyddoniaeth Gymhwysol Lefel 2 - Diploma Cyntaf

Amser-llawn
Lefel 2
BTEC Diploma
Tycoch
One year
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Arolwg

Ar y cwrs blwyddyn hwn, bydd dysgwyr yn dysgu am gysyniadau sylfaenol gwyddoniaeth. Rhennir y cwrs yn 16 uned sy’n cwmpasu cysyniadau gwyddonol allweddol. Mae’r unedau hyn yn cynnwys: 

  • Egwyddorion gwyddoniaeth
  • Cemeg a’n Daear
  • Ynni a’n bydysawd
  • Bioleg a’n hamgylchedd
  • Cymhwyso sylweddau cemegol
  • Cymhwyso gwyddor ffisegol
  • Cymwysiadau iechyd mewn gwyddor bywyd
  • Sgiliau gwyddonol
  • Prosiect gwyddonol ymarferol
  • Sut mae damcaniaethau gwyddonol yn cael eu llunio
  • Y corff byw
  • Ymchwilio i safle trosedd
  • Gwyddoniaeth mewn meddygaeth
  • Dylunio a gwneud dyfeisiau defnyddiol mewn gwyddoniaeth
  • Dadansoddi a chanfod cemegol
  • Archwilio ein bydysawd.

Addysgir pob uned gan ddarlithwyr arbenigol. Asesir dwy uned gan ddefnyddio arholiadau; asesir y gweddill gan ddefnyddio aseiniadau. Gan fod y cwrs yn canolbwyntio ar asesiadau yn hytrach nag arholiadau mae llawer o gyfleoedd i wneud gweithgareddau ymarferol, a fydd yn helpu i ddatblygu sgiliau gwyddonol. 

Gwybodaeth allweddol

Yn ddelfrydol, pedair gradd D ar lefel TGAU ond rhaid i hyn gynnwys Mathemateg a Saesneg, neu Astudiaethau Galwedigaethol (Lefel 1) gyda phroffil teilyngdod. 

Asesir y cwrs trwy waith ymarferol, aseiniadau ac arholiadau allanol. Graddau’r asesiadau allanol a mewnol yw Pasio, Teilyngdod a Rhagoriaeth. Mae graddau’r unedau’n seiliedig ar y radd isaf a gyflawnwyd.

Bydd cwblhau’r cwrs hwn gyda phroffil gradd Teilyngdod Rhagoriaeth (DM) yn rhoi modd i chi symud ymlaen i’r cwrs BTEC Gwyddoniaeth Gymhwysol - Gwyddoniaeth Ddadansoddol a Fforensig neu Wyddor Fiofeddygol (Diploma Estynedig Lefel 3).

Bydd gofyn i ddysgwyr nad ydynt wedi cyflawni gradd C mewn Mathemateg a Saesneg, ailsefyll un ohonynt ochr yn ochr â’r cwrs gwyddoniaeth gymhwysol Lefel 2. 

Bydd gofyn i ddysgwyr nad ydynt wedi cyflawni gradd C mewn Mathemateg a Saesneg, ailsefyll un ohonynt ochr yn ochr â’r cwrs gwyddoniaeth gymhwysol Lefel 2.