Skip to main content

Gwyddoniaeth Gymhwysol – Gwyddor Ddadansoddol a Fforensig neu Wyddor Fiofeddygol Lefel 3 - Diploma Estynedig

Amser-llawn
Lefel 3
BTEC Extended Diploma
Tycoch
Two years
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Arolwg

Addysgir y cwrs dwy flynedd hwn gan ddarlithwyr arbenigol sy’n defnyddio labordai ac ystafelloedd addysgu llawn cyfarpar.

Yn yr ail flwyddyn astudio, mae gan ddysgwyr yr opsiwn i ddilyn y llwybr Gwyddor Ddadansoddol a Fforensig neu Wyddor Fiofeddygol, yn dibynnu ar y llwybr dilyniant o’u dewis. Mae meysydd astudio dros y ddwy flynedd yn cynnwys:

  • Egwyddorion a chymwysiadau gwyddoniaeth*
  • Gweithdrefnau a thechnegau gwyddonol ymarferol
  • Sgiliau ymchwilio gwyddonol*
  • Technegau labordy a’u cymhwyso
  • Prosiect ymchwil
  • Egwyddorion a chymwysiadau gwyddoniaeth II*
  • Materion cyfoes mewn gwyddoniaeth*
  • Rheoleiddio ac atgenhedlu dynol
  • Geneteg a pheirianneg enetig 
  • Cymhwyso cemeg organig
  • Dadansoddiad cemegol ymarferol.

*Asesir yn allanol 

Mae unedau dewisol yn cynnwys: 

  • Casglu a dadansoddi tystiolaeth fforensig
  • Ymchwiliad fforensig i wrthdrawiadau traffig

neu 

  • Microbioleg a thechnegau microbiolegol 
  • Molecylau biolegol a llwybrau metabolaidd.

Gwybodaeth allweddol

Pum gradd C ar lefel TGAU gan gynnwys Saesneg a Mathemateg, gyda Gwyddoniaeth (dymunol) neu’r cymhwyster BTEC Diploma Cyntaf Lefel 2 mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol (gyda phroffil Rhagoriaeth/Teilyngdod).

Cewch eich asesu trwy waith cwrs ac arholiadau, seiliedig ar waith ymarferol ac ymchwil academaidd. Graddau’r asesiadau mewnol ac allanol yw pasio, teilyngdod neu ragoriaeth. Mae’r graddau ar gyfer pob uned yn seiliedig ar y radd isaf a gyflawnwyd.

Dyma gwrs delfrydol ar gyfer symud ymlaen i’r brifysgol. Mae cyn-fyfyrwyr wedi mynd ymlaen i astudio cyrsiau gradd mewn geneteg feddygol, bioleg, hyfforddiant parafeddygol, gwyddor fforensig, technoleg ddeintyddol, troseddeg a biocemeg.

Bydd myfyrwyr hefyd yn astudio Bagloriaeth Cymru ochr yn ochr â’r prif gwrs a fydd yn cynyddu pwyntiau UCAS ar gyfer mynediad i’r brifysgol.

Explore in VR