Skip to main content

Chwaraeon Lefel 2 - Diploma

Amser-llawn
Lefel 2
OCR
Tycoch
one year
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Arolwg

Mae’r cwrs blwyddyn hwn yn rhoi cipolwg gwych i chi ar y diwydiant chwaraeon a hamdden egnïol, gyda chyfle i gael cymwysterau hyfforddiant ychwanegol. Mae meysydd astudio’n cynnwys:

  • Anafiadau chwaraeon
  • Maetheg
  • Chwaraeon ymarferol
  • Anatomeg
  • Cynllunio ac arwain gweithgareddau chwaraeon.

Mae hefyd yn annog datblygiad personol trwy gyfranogiad ymarferol a pherfformiad mewn amrywiaeth o weithgareddau.

Gwybodaeth allweddol

Pum gradd D neu uwch ar lefel TGAU gan gynnwys Saesneg a Mathemateg

Asesir yr unedau trwy waith cwrs ysgrifenedig ac ymarferol.

Gallai cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus arwain at gyflogaeth yn y diwydiant chwaraeon/hamdden neu ddilyniant i gwrs Lefel 3 mewn chwaraeon (h.y. Chwaraeon (Datblygiad, Hyfforddiant a Ffitrwydd)Chwaraeon – Hyfforddiant a Pherfformiad Pêl-droed neu Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff neu faes pwnc cysylltiedig.

Rhaid i fyfyrwyr brynu crys-T, crys polo a hwdi ar gyfer y cwrs.

Bydd myfyrwyr yn cael cyfle i brynu tracwisg coleg a chit cysylltiedig â chwaraeon trwy’r timau chwaraeon a ddewiswyd.

Mae’n bosibl y bydd costau bach ychwanegol ar gyfer ymweliadau addysgol lleol.

Explore in VR