Trin Gwallt – dan 19 (Tystysgrif L1)

Trosolwg o’r Cwrs

Ar y cwrs blwyddyn hwn bydd myfyrwyr yn dechrau datblygu sgiliau trin gwallt. Mae meysydd astudio’n cynnwys:

  • Iechyd a diogelwch
  • Datblygu cysylltiadau gwaith effeithiol
  • Siampŵ a chyflyru
  • Paratoi ar gyfer gwasanaethau gwallt a chynnal mannau gwaith
  • Chwythsychu gwallt
  • Cynorthwyo gyda gwasanaethau lliw gwallt
  • Plethu a throelli gwallt gan ddefnyddio technegau sylfaenol
  • Dyletswyddau derbynfa (dewisol).

Bydd myfyrwyr hefyd yn cwblhau cymwysterau mewn mathemateg, Saesneg a chyflogadwyedd.

25/10/22

Explore this location in 3D


Gofynion Mynediad

Yn ddelfrydol, gradd D mewn TGAU Saesneg a Mathemateg neu Lefel 1 mewn cyfathrebu a chymhwyso rhif Sgiliau Hanfodol Cymru. Bydd yn ofynnol i chi gwblhau asesiad cychwynnol mewn llythrennedd a rhifedd.

Dull Addysgu’r Cwrs

Byddwch yn dod i’r Coleg am 17 awr yr wythnos a byddwch yn treulio’ch amser yn y salonau ac yn yr ystafell ddosbarth. Mae’r holl asesiadau’n barhaus ac yn cynnwys arsylwadau ymarferol a phrofion ysgrifenedig.

Cyfleoedd Dilyniant

Lefel 2 mewn Trin Gwallt neu gyflogaeth mewn salon fel cynorthwyydd.

Gallai cyrsiau cysylltiedig gynnwys Lefel 2 mewn Technegau Arbenigwr Harddwch.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd yn ofynnol i bob myfyriwr brynu cit trin gwallt llawn, iwnifform, ac ati. Mae hyn oll yn costio tua £350 (efallai y bydd cyllid ar gael ar gyfer hyn).

Lleoliad(au):
Broadway Hair and Beauty Centre, Tycoch
Cwrs ar gael yn Gymraeg:
No