Skip to main content

Trin Gwallt Lefel 3 - Diploma

Amser-llawn
Lefel 3
VRQ
Broadway Hair and Beauty Centre, Tycoch
Un flwyddyn
Ffôn: 01792 284049 (Broadway)

Arolwg

Yn ystod y cwrs blwyddyn hwn byddwch yn datblygu eich sgiliau trin gwallt uwch, gan weithio ar gleientiaid mewn amgylchedd salon masnachol. Mae’r cymhwyster hwn yn cynnwys yr holl elfennau gofynnol i weithio’n effeithiol fel triniwr gwallt uwch.

Mae meysydd astudio yn cynnwys:

  • Iechyd a diogelwch 
  • Ymgynghori â chleientiaid 
  • Torri creadigol 
  • Lliwio gwallt yn greadigol 
  • Steilio gwallt yn greadigol 
  • Hyrwyddo. 

Gwybodaeth allweddol

  • O leiaf dair gradd C neu uwch ar lefel TGAU gan gynnwys Mathemateg a Saesneg Iaith 
  • Diploma Lefel 2 mewn Trin Gwallt 
  • Sgiliau trin gwallt sylfaenol da a dealltwriaeth dda o theori trin gwallt 
  • Uchel eich cymhelliant â diddordeb angerddol yn y diwydiant. 

Mae asesiadau yn barhaus drwy gydol y flwyddyn gan gynnwys arsylwadau ymarferol a phrofion ac aseiniadau ysgrifenedig. 

Mae cyfleoedd cyflogaeth yn cynnwys gweithio fel steilydd mewn salon masnachol, llongau mordeithio, perchennog salon.

Rhaid i ddysgwyr brynu cit a gwisg fel rhan o’u cwrs.   

Byddwn yn cadarnhau costau yn ystod y cyfweliad.