Skip to main content
Santes Dwynwen 2023

Coleg yn dathlu Santes Dwynwen

Wythnos diwethaf (dydd Llun 23 Ionawr) dathlodd y Coleg Ddydd Santes Dwynwen, nawddsant cariadon Cymru, ychydig yn wahanol. Penderfynom roi gwobrau am straeon newyddion da, cyfeillgar a chadarnhaol drwy ofyn i staff a dysgwyr enwebu rhywun sydd wedi bod yn gyfeillgar, yn gariadus ac wedi dangos ysbryd cymunedol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.   

Gofynnwyd i enwebwyr roi rheswm pam roedden nhw’n meddwl bod pobl yn haeddu’r gydnabyddiaeth hon. Roedd y rhesymau a roddwyd yn cynnwys caredigrwydd wrth aelod newydd o staff pan ddechreuodd yn y Coleg; gwirfoddoli mewn banciau bwyd lleol a helpu mewn cymunedau difreintiedig a digartref; croesawu ffoaduriaid o Wcráin a bod yn garedig wrth eraill yn gyffredinol.   

Mae’r amrywiaeth o resymau dros enwebu unigolion yn dangos pa mor amrywiol yw ein cymuned coleg, sut y dylem ddathlu’r amrywiaeth hon a dathlu’r newyddion da sy’n gallu dod o gyfnodau anodd weithiau. Rydym wedi dathlu Santes Dwynwen yn y ffordd hon am y tair blynedd diwethaf, ac mae wedi mynd o nerth i nerth, gyda nifer y bobl sy’n cael eu henwebu yn cynyddu bob blwyddyn. 

Dywedodd Anna Davies, ein Rheolwr Cymraeg yn y Coleg “Hoffwn i ddiolch i bob aelod o staff a dysgwr a gymerodd yr amser i enwebu’r holl unigolion. Llongyfarchiadau enfawr i bawb a enillodd rodd. Fel Coleg, rydyn ni’n wirioneddol ddiolchgar am bopeth rydych chi’n ei wneud i helpu pobl eraill drwy eich gweithredoedd o garedigrwydd a lledu positifrwydd ar draws ein Coleg a’r gymuned leol. Diolch a Dydd Santes Dwynwen hapus i chi i gyd!”