Cyfnod clo atal y coronafeirws, beth mae hyn yn ei olygu i’r Coleg?


Diweddarwyd 20/10/2020

Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ddoe am gyfnod atal y coronafeirws ledled y wlad, bydd y Coleg yn cau ar gyfer hanner tymor i bawb ar wahân i staff hanfodol am 6pm ar ddydd Gwener 23 Hydref.

O ddydd Llun 2 Tachwedd i ddydd Gwener 6 Tachwedd, bydd pob campws yn aros ar gau ond bydd yr holl addysgu’n cael ei gyflwyno ar-lein.

  • Bydd yr holl brentisiaethau hefyd yn cael eu haddysgu o bell
  • Bydd EMA yn parhau i gael ei dalu
  • Bydd arholiadau ailsefyll TGAU ac arholiadau mynediad i’r brifysgol yn dal i gael eu cynnal. Bydd manylion pellach ynghylch y rhain, a’r holl arholiadau eraill a drefnwyd, ar gael yn fuan
  • Dim ond staff a nodwyd sy’n cael dod i’r campws.

ddydd Llun 9 Tachwedd, byddwn yn parhau i’n model addysgu y gwnaethom ei gyflwyno ym mis Medi. Mae hyn yn cynnwys addysgu wyneb yn wyneb i bob un o’n myfyrwyr amser llawn, a chymysgedd o addysgu ar-lein a wyneb yn wyneb ar gyfer prentisiaid a myfyrwyr rhan-amser. 

Caiff manylion pellach eu rhyddhau’n fuan ynghylch cyrsiau rhan-amser sydd i fod i ddechrau o ddydd Llun 2 Tachwedd.

Bydd ein rhaglenni cyflogadwyedd yn parhau i ddarparu cymorth o bell drwy gydol y cyfnod clo byr a gallwch gysylltu â nhw ar 01792 284450 neu info@betterjobsbetterfutures.wales

Parhewch i ddarllen ein tudalen we Covid-19 lle byddwn yn postio’r newyddion diweddaraf, yn ogystal â’n sianeli’r cyfryngau cymdeithasol.

Mae rhagor o wybodaeth am y cyfnod clo byr hwn i’w weld ar wefan Llywodraeth Cymru.

Tags: