Skip to main content

Cyfweliadau Rhydgrawnt ar gyfer 30 o fyfyrwyr

Mae 30 o’r 43 o fyfyrwyr sy’n dilyn y Rhaglen Paratoi ar gyfer Rhydgrawnt yng Ngholeg Gŵyr Abertawe ar hyn o bryd wedi llwyddo i gael cyfweliad yn Rhydychen neu Gaergrawnt.

Mae’r rhaglen sefydledig, a addysgir ar gampws Gorseinon, yn darparu’r paratoad gorau posibl, i fyfyrwyr sy’n bwriadu symud ymlaen i Rydychen, Caergrawnt a phrifysgolion Russell Group eraill.

“Mae’n rhaglen ddwys sy’n cynnwys sesiynau tiwtorial wythnosol, i Brifysgol Rhydychen a Phrifysgol Caergrawnt, cyfweliadau paratoi gyda chynfyfyrwyr Rhydgrawnt a gweithwyr proffesiynol academaidd lleol, prawf gallu a pharatoi ar gyfer asesu mewn pynciau perthnasol,” dywedodd tiwtor arweiniol Rhydgrawnt Felicity Padley. “Mae hefyd yn effeithiol dros ben – mae 43 o fyfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe wedi cael eu derbyn i astudio yn Rhydychen neu Gaergrawnt yn y chwe blynedd diwethaf, ac mae hyn yn gyfradd pasio anhygoel.”

“Ar gyfer y cohort eleni, y pynciau mwyaf poblogaidd yw meddygaeth o fewn y gwyddorau a Saesneg o fewn y dyniaethau. Rydyn ni hefyd yn llawn cyffro i weld dau fyfyriwr sy’n gobeithio darllen Cyfrifiadureg. Rydyn ni’n dymuno pob lwc iddyn nhw!”

Mae’r myfyrwyr nawr yn nerfus wrth iddynt aros i weld a ydynt wedi cael eu derbyn i’w prifysgolion perthnasol ar 10 Ionawr 2018.

Yn ogystal, Coleg Gŵyr Abertawe – ar wahoddiad Prifysgol Caergrawnt – yw’r unig Goleg AB yng Nghymru i redeg rhaglen HE+.

Gyda chefnogaeth Rhaglen Seren Llywodraeth Cymru, nod HE+ yw datblygu sgiliau academaidd ac ysbrydoli myfyrwyr i anelu mor uchel ag sy’n bosibl wrth wneud eu dewisdiadau prifysgol.

DIWEDD