Skip to main content

Y diweddaraf am Goronafeirws

Mewn cyhoeddiad wythnos diwethaf, nododd y Gweinidog Addysg y bydd rhai myfyrwyr yn cael dychwelyd i’r Coleg ar ddydd Llun 15 Mehefin. Hoffwn eich diweddaru ar sut y bydd y cyhoeddiad hwn yn effeithio ar fyfyrwyr sy’n astudio yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.

Yn gyntaf, hoffwn gadarnhau unwaith eto mai prif flaenoriaeth Coleg Gŵyr Abertawe yw iechyd a diogelwch ein myfyrwyr a’n staff. Ni fydd cyhoeddiad y Gweinidog yn newid y flaenoriaeth hon mewn unrhyw ffordd.

Fodd bynnag, mae’r cyhoeddiad yn rhoi cyfle i rai myfyrwyr - yn benodol y rhai sydd ag asesiadau galwedigaethol i’w cwblhau - i ddychwelyd i’r Coleg i gyflawni’r gwaith yma.

Ond, wrth ddychwelyd i’r Coleg, rhaid i’r myfyrwyr ddeall y byddwn yn gweithredu’n wahanol iawn i’r ffordd yr oeddem yn gweithredu cyn y Coronafeirws. Bydd niferoedd y dosbarthiadau yn llai a bydd angen cydymffurfio â’r mesurau o ran cadw pellter cymdeithasol.

Ewch i’n tudalen we benodol i gael y wybodaeth ddiweddaraf. Mae’n bwysig eich bod yn deall a gwybod am y wybodaeth yma ar hyn bryd.

Yn olaf, hoffwn ddiolch i chi am eich amynedd wrth i ni roi trefniadau angenrheidiol ar waith er mwyn galluogi’n myfyrwyr i gyflawni unrhyw asesiadau sy’n weddill ganddynt, gan sicrhau diogelwch a lles ar bob adeg.

Mark Jones
Pennaeth

***

Mae’r dudalen we bwrpasol hon yn cynnwys Cwestiynau Cyffredin i helpu i gefnogi ein staff, ein myfyrwyr, rhieni ac eraill ar yr adeg heriol hon. Bydd yn cynnwys dolenni defnyddiol i’r canllawiau diweddaraf gan y Llywodraeth, sefydliadau iechyd cyhoeddus a’r GIG.

Rydym yn annog yr holl staff a myfyrwyr i wirio’r dudalen we hon yn rheolaidd a dilyn ein safleoedd y cyfryngau cymdeithasol:

Trydar: @GowerCollegeSwa
Facebook: www.facebook.com/gowercollegeswansea