Skip to main content
Dathlu Diwrnod Shwmae

Dathlu Diwrnod Shwmae

Yr wythnos hon mae bob campws wedi dathlu Diwrnod Shwmae mewn steil. 

Bisgedi, sticeri, ‘selfies’ gyda’r bathodyn ‘Cymraeg’ oren, adnoddau i staff a fwy pwysig na dim, cwrdd a siarad Cymraeg gyda bobl o gwmpas y lle.  DRos y pum diwrnod diwethaf rydym wedi cyfarch miloedd o fyfyrwyr gyda ‘Shwmae’!

“Nod y diwrnod oedd dangos fod y Gymraeg yn perthyn i bawb ac y gallwn ni i gyd ddefnyddio’r Gymraeg sydd gennym drwy’r flwyddyn – yn y siop, yn y ganolfan hamdden, yn y gwaith, wrth geisio gwasanaeth Cymraeg yn ein cymuned,gyda ffrindiau – ymhob man!,” meddai Sian Fisher, Swyddog Ymgysylltu’r Gymraeg. “Dyma gyfle i wneud y Gymraeg yn llawer mwy amlwg a lle well i ddechrau na gyda’r ffordd ry’n ni’n cyfarch ein gilydd!”

"Bu Diwrnod Shwmae yn gyfle euraidd inni atgyfnerthu’r gefnogaeth eang sydd yma i'r Gymraeg a chyfle i gefnogi ac annog ymdrechion pawb sydd wrthi yn dysgu Cymraeg yma yn y Coleg."

Dechrau’r daith yw Diwrnod Shwmae; y bwriad yw y bydd yn arwain at ein gweld ni gyd yn defnyddio mwy o’r Gymraeg yn ein bywydau bob dydd. Gennym ni, y pwer i gadw’r Gymraeg a ffordd syml o wneud hyn yw dweud shwmae ar ddechrau sgwrs.