Skip to main content
Diweddariad pwysig ynghylch: wythnos yn dechrau 11 Ionawr 2021

Diweddariad pwysig - dysgu ar-lein tan 29 Ionawr

Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno yn ddiweddar y bydd pob ysgol, coleg ac ysgol annibynnol yn parhau â dysgu o bell tan 29 Ionawr o leiaf, pan fydd y sefyllfa’n cael ei hadolygu.

Byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru i gynllunio ar gyfer gweddill y tymor a, pan fydd rhagor o wybodaeth ar gael, byddwn yn diweddaru ein gwefan a’n sianeli’r cyfryngau cymdeithasol.

Byddwn yn rhoi’r diweddaraf am asesiadau ac arholiadau wrth i’r darlun ddod yn gliriach.

Tra bo’ dysgu’n cael ei ddarparu ar-lein, byddwn yn parhau i gynnig ystod lawn o weithgareddau lles i staff a myfyrwyr. Dyma rhai o’r gweithgareddau:

  • Ymwybyddiaeth Ofalgar
  • Arlunio Mandala 
  • Boxercise
  • Myfyrio
  • Sgan corff Ymwybyddiaeth Ofalgar

Darganfyddwch beth arall sydd gennym i’w gynnig yn ystod yr wythnosau nesaf.

Gwybodaeth am Goronafeirws (COVID-19)