Myfyriwr Technoleg Peirianneg yn rhagori ar Brentisiaeth Gradd


Diweddarwyd 11/06/2020

Mae alwm Technolegau Peirianneg, Fleet Morgan, wedi ei osod ar Brentisiaeth Gradd gyda cwmni, MBDA Missile Systems.

Mae Fleet yn ennill arian wrth ddysgu gan treulio pedwar diwrnod gyda'r cwmni ac un diwrnod yn Prifysgol Swydd Hertford.

Nid yn unig y mae’n cael profiad o wahanol feysydd y cwmni ac yn gweithio gyda’r dechnoleg ddiweddaraf, ond mae MBDA Missile Systems yn talu ei ffioedd dysgu yn ogystal â chyflog cychwynnol o £14,500 a allai o bosibl gynyddu £4,000 bob blwyddyn tra bydd ar y brentisiaeth.

Mae Fleet wedi canmol ein staff Technoleg Peirianneg am eu cymorth a’u cyngor ar gyfweliadau yn ystod sesiynau tiwtorial. Roedd Diploma Estynedig Technegol Lefel 3 mewn Technoleg Peirianneg yn gwrs perffaith i symud ymlaen i’r maes gwaith hwn.

Tags: