Myfyrwyr yn mwynhau gwibdaith i UDA


Diweddarwyd 09/04/2020

Ym mis Mawrth, aeth grŵp o 25 o fyfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe ar daith lwyddiannus i America.

Roedd y myfyrwyr, o gyrsiau Safon UG a Safon Uwch Llywodraeth a Gwleidyddiaeth a Hanes, wedi ymweld â thirnodau addysgol a diwylliannol yn Ninas Efrog Newydd a Washington DC.

“Dwi’n hynod falch o gyfranogiad y myfyrwyr yn ystod yr ymweliad hwn – wnaethon nhw gynrychioli’r Coleg â rhagoriaeth a chymryd diddordeb brwd yn yr amrywiol agweddau ar yr hyn a oedd yn rhaglen ddwys,” meddai Arweinydd Cwricwlwm y Llywodraeth a Gwleidyddiaeth, Scott Evans.

“Bydd y profiadau y byddan nhw wedi’u cael trwy ymweld â lleoliadau nodedig o’r fath a mynd ar deithiau o amgylch sefydliadau arwyddocaol nid yn unig yn profi i fod yn gyfoethog o safbwynt dysgu ond byddan nhw hefyd yn atgofion hapus iddyn nhw am flynyddoedd lawer i ddod. Roedd yn daith hynod bleserus.”

Y daith ddiweddar hon i America oedd y bedwaredd i gael ei rhedeg gan yr adran a’r daith orau efallai, wrth i fyfyrwyr ymweld â sefydliadau a fydd yn ategu agweddau ar eu priod feysydd llafur gwleidyddiaeth a hanes.

Roedd eu taith yn cynnwys ymweliadau ag Ynys Liberty, Ynys Ellis, Amgueddfa Goffa 9/11, Pont Brooklyn, Pencadlys y Cenhedloedd Unedig, Capitol Hill, yr Archifau Cenedlaethol, yr Amgueddfa Affricanaidd-Americanaidd, Mynwent Arlington a Chofeb Lincoln.

Ond nid gwaith oedd y cyfan! Yn eu hamser segur, roedd y grŵp wedi mwynhau ymweliadau â Times Square, Central Park a Chanolfan Rockefeller.

Os hoffech wybod rhagor am gyrsiau cysylltiedig, ewch i

https://www.gcs.ac.uk/cy/a-levels-and-gcses

Tags: