Skip to main content

Y 10 prif reswm pam dylech garu’ch coleg

  1. Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau amser llawn, rhan-amser, addysg uwch a galwedigaethol gan gynnig rhywbeth i bawb.
     
  2. Mae cyfleusterau gwych gennym! Yn ddiweddar rydym wedi cael ailddatblygiad gwerth £4 miliwn i du blaen Campws Tycoch sy’n cynnwys derbynfa, ystafell gyffredin a siop goffi Costa newydd! Yn fwy diweddar ar Gampws Gorseinon rydym yn lansio lle cymdeithasol gwerth £2 filiwn i fyfyrwyr a fydd yn gartref i le coffi Costa newydd gyda mynediad i Wi-Fi, sgriniau teledu a seddau ychwanegol ar gyfer hyd at 110 o fyfyrwyr.
     
  3. Rydym yn rhoi cymorth a chyngor ar bopeth o ddewisiadau cwrs i anghenion dysgu ychwanegol, cyllid a ffyrdd o fyw iach.
     
  4. Rydym yn cymryd rhan yn y gymuned drwy gefnogi mentrau a digwyddiadau lleol, er enghraifft, yn ddiweddar buom yn noddwr allweddol ar gyfer Pro Cymru, digwyddiad Taith Syrffio Pro 4 UKPSA.
     
  5. Rydym wedi gweld llawer o fyfyrwyr yn mynd ymlaen i wneud pethau anhygoel, fel y cyn-fyfyriwr arlwyo a lletygarwch Collette Gorvett. Mae Collette ar hyn o bryd yn gweithio yn The Ritz, Llundain ac yn ddiweddar roedd wedi cystadlu yn erbyn 19 o bobl eraill yng nghystadleuaeth y Gwasanaethau Bwyty yn EuroSkills Budapest 2018 - enillodd Fedaliwn Rhagoriaeth hefyd.
     
  6. Rydym yn credu bod amrywiaeth yn bwysig a drwy gydol y flwyddyn rydym yn dathlu hyn gyda digwyddiadau sy’n cefnogi Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth, Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, Wythnos Ffoaduriaid a llawer mwy gan gynnwys ffair amrywiaeth flynyddol i’n myfyrwyr gymryd rhan ynddi.
     
  7. Rydym yn cael canlyniadau gwych! Mae ein canlyniadau Safon Uwch 2018 wedi rhagori’n sylweddol ar gyfartaledd cenedlaethol Cymru gan 7% o ran graddau A*-C.
     
  8. Rydym yn cefnogi mentrau’r iaith Gymraeg ac yn annog ein staff a’n myfyrwyr i ddysgu trwy ddigwyddiadau, gweithgareddau a dewisiadau academaidd.
     
  9. Rydym yn helpu gyda chyflogadwyedd trwy ein rhaglen ‘Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol’ sy’n ceisio helpu pobl yn ardal Abertawe i chwilio am gyflogaeth newydd neu well.
     
  10. Rydym yn gofalu am ein staff ac yn ddiweddar rydym wedi arwyddo’r adduned cyflogwr i fynd i’r afael â stigma iechyd meddwl yn y gweithle trwy Amser i Newid Cymru.