Skip to main content

Annog busnesau Cymru i ailystyried strategaethau recriwtio ymysg argyfwng yn y gweithlu

Gan fod Wythnos Prentisiaethau Cymru ar y gweill (7-13 Chwefror), mae busnesau Cymru yn cael eu hannog i ailystyried strategaethau recriwtio presennol er mwyn rheoli gweithluoedd y dyfodol yn y ffordd orau.

Mae Mark Jones, Pennaeth Coleg Gŵyr Abertawe a Vaughan Gething, y Gweinidog dros yr Economi, yn gofyn i fusnesau Cymru ystyried recriwtio prentisiaid mewn ymgais i lenwi swyddi gwag.

Mae’r sectorau sydd â’r nifer fwyaf o swyddi gwag yn cynnwys gofal iechyd, gofal cymdeithasol, lletygarwch, ac adwerthu, ac mae pob un yn cyfrannu at yr 1.2 miliwn o swyddi gwag, y nifer fwyaf erioed*, ledled y DU, fel yr adroddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, yr wythnos diwethaf.

Yn sôn am yr angen am newid, dywedodd Pennaeth Coleg Gŵyr Abertawe, Mark Jones:
“Mae’r farchnad lafur yn newid yn barhaus – a hyd yn oed yn fwy felly yn y blynyddoedd diwethaf – a heddiw, mewn llawer o rolau, mae busnesau’n chwilio am ymgeiswyr i ddechrau ar y gwaith. Ond er bod hyn yn gwbl ddealladwy, nid yw newydd-ddyfodiaid i'r farchnad swyddi bob amser yn gallu gwneud hyn a dyma un rheswm pam rydyn ni’n annog busnesau i archwilio’r manteision enfawr sy’n gysylltiedig â recriwtio prentisiaid.

“Yn ogystal â chael y cyfle i hyfforddi a siapio unigolyn i weithio mewn ffordd sy’n gweddu i’ch busnes chi, bydd gennych chi hefyd aelod newydd o'ch tîm sy'n gweithio tuag at gymwysterau sy’n benodol i’r diwydiant. Mae llawer o fusnesau yn gweld prentisiaid fel ffordd o ddiogelu’r gweithlu at y dyfodol, sy’n bwysicach nawr, nag erioed.

“Wrth i ni ddechrau Wythnos Prentisiaethau Cymru, rydyn ni hefyd yn awyddus i godi ymwybyddiaeth o’r nifer fawr o lwybrau prentisiaeth sydd ar gael, sy’n rhychwantu pob sector. O weinyddu busnes, gofal cymdeithasol, ac adwerthu, i beirianneg, lletygarwch a gwasanaeth cwsmeriaid. Fel coleg, rydyn ni’n gallu, ac rydyn ni yn, gweithio’n agos gyda busnesau i arwain a chynghori drwy’r broses gyfan, o gyngor ariannu hyd at recriwtio’r ymgeisydd perffaith.”

Mewn ymdrech i gynorthwyo busnesau o ganlyniad i Covid, fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyflwyno cynllun cymhelliant cyflogwyr ym mis Awst 2020. Roedd hyn yn golygu y gallai cyflogwyr nawr dderbyn hyd at £4,000 am bob prentis newydd sy’n cael ei hurio ar neu ar ôl 1 Mawrth 2021. Fodd bynnag, mae’r cymhelliant hwn yn dod i ben ar 28 Chwefror, ac felly mae angen i fusnesau weithio’n gyflym i fanteisio’n llawn ar y cyllid sydd ar gael iddynt.

Dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog dros yr Economi: 
Mae prentisiaethau yn ddewis doeth, i gyflogwyr sy’n ceisio diogelu eu gweithluoedd at y dyfodol wrth feithrin talent sy’n bodoli yng Nghymru eisoes, ac i bobl sydd eisiau dilyn llwybr i gyflogaeth sy’n rhoi’r cyfle i ddysgu wrth ennill cyflog.
“Mae Wythnos Prentisiaethau Cymru yn gyfle i ni gynyddu ymwybyddiaeth ac ymgysylltu â phrentisiaethau yng Nghymru, a thynnu sylw at y cyfleoedd sydd ar gael i bobl ar hyn o bryd.

“Rwy’n credu y bydd prentisiaethau’n hanfodol wrth i ni ddod allan o’r pandemig. Dyna pam rydyn ni wedi ymrwymo i greu 125,000 o leoedd Prentisiaeth ychwanegol dros y pum mlynedd nesaf. Rydyn ni’n wlad fach ond mae gyda ni uchelgeisiau mawr, a’n nod yw creu diwylliant yng Nghymru lle bydd recriwtio prentis yn weithred arferol i gyflogwyr.”

Busnes sydd wedi elwa ar fuddion recriwtio prentisiaid yw Gareth Harry, sylfaenydd yr asiantaethau digidol, GR Digital a Zygo Media:
“Bydd angen pobl newydd arnoch chi bob amser i ymuno â'ch busnes. Gall staff presennol symud ymlaen, ymddeol neu efallai y byddwch chi mewn sefyllfa i dyfu eich tîm; ac felly mae’n bwysig bod gennych chi strategaeth recriwtio effeithiol ar waith. Roeddwn i'n arfer troi at brifysgolion i recriwtio ond mae recriwtio prentisiaid wedi bod yn fanteisiol i ni dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

“Rydyn ni’n teimlo ein bod ni’n creu ein cronfa dalent ein hunain i ddiogelu ein busnes at y dyfodol. Nid yn unig y mae prentisiaid yn gwneud y swydd dan sylw, ond maen nhw’n ennill cymwysterau arbenigol ar yr un pryd. Mae’n wych i ni oherwydd mae’n golygu bod gyda ni weithlu medrus iawn sy’n deall ein busnes a’n diwydiant yn llawn.”

Ariennir y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

I gael help i hurio prentisiaid, cysylltwch â Choleg Gŵyr Abertawe yn uniongyrchol ar 01792 284400 / apprenticeships@coleggwyrabertawe.ac.uk neu ewch i www.gcs.ac.uk/cy/apprenticeships