Newyddion y Coleg

Adeiladu Talentau Digidol: Coleg Abertawe a Choleg Gŵyr Abertawe yn dathlu llwyddiant prentisiaethau
Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn dathlu cyflawniadau pum prentis o dîm Gwasanaethau Digidol Cyngor Abertawe, sydd wedi cwblhau eu rhaglen brentisiaeth dwy flynedd sef Gweithiwr Proffesiynol Telathrebu. Mae pob un ohonynt wedi llwyddo i sicrhau cyfleoedd gyrfa o fewn y Cyngor, gan nodi carreg filltir sylweddol yn y bartneriaeth rhwng y Coleg a Chyngor Abertawe.
Darllen mwy
Pŵer Trawsnewidiol Prentisiaethau: Hybu Llwyddiant Busnes
Gan Paul Kift, Dirprwy Bennaeth Sgiliau a Phartneriaethau Coleg Gŵyr Abertawe
Mae’r economi yn esblygu ar raddfa barhaus, sy’n golygu bod busnesau yn wynebu pwysau i aros yn gystadleuol, arloesol a chynhyrchiol. Un strategaeth hynod effeithiol nad yw’n cael ei ddefnyddio ddigon yw prentisiaethau. Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe rydym yn gweld effaith drawsnewidiol prentisiaethau ar fusnesau hyd a lled Cymru bob dydd.
Darllen mwy
Coleg Gŵyr Abertawe yn dathlu Wythnos Prentisiaethau Cymru 2025
Mae Wythnos Prentisiaethau Cymru yn ddathliad blynyddol sy’n taflu goleuni ar y rôl hollbwysig y mae prentisiaethau yn ei chwarae wrth lunio gweithlu’r dyfodol, gan rymuso dysgwyr a llywio llwyddiant busnes.
Darllen mwy
Tîm Rocket League Gwdihŵs CGA yn ennill yng Nghystadleuaeth Bett 2025!
Cafodd Tîm Echwaraeon Coleg Gŵyr Abertawe, Gwdihŵs CGA, amser gwych yn nigwyddiad Bett 2025. Fe wnaethant ennill y gystadleuaeth Rocket League yn ogystal â chael cyfle i ymgysylltu ag arweinwyr o fewn y diwydiant, gan arddangos eu hangerdd am chwarae gemau mewn amgylchedd cystadleuol.
Darllen mwy
Coleg yn taflu goleuni ar ei gymorth trawiadol i fyfyrwyr
Roedd yn bleser mawr gan Goleg Gŵyr Abertawe groesawu Sioned Williams, Aelod Rhanbarthol o’r Senedd, i gampws Tycoch yn ddiweddar.
Yn ystod ei thaith o gwmpas y campws, ymwelodd Sioned ag adrannau Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a Sgiliau Byw’n Annibynnol (SBA) y Coleg, yn ogystal â Gwasanaethau Dysgwyr a thîm y Llyfrgell. Yno, roedd staff yn gallu dangos y lefelau amrywiol o gymorth a gynigiwn i fyfyrwyr fel cyngor ar gyllid, gofal bugeiliol, cyfoethogi a lles, a niwroamrywiaeth.
Darllen mwy
Dechrau gyrfaoedd creadigol yng Ngholeg Gŵyr Abertawe
Cafodd myfyrwyr ar amrywiaeth o gyrsiau celf a dylunio yng Ngholeg Gŵyr Abertawe gyfle gwych i gwrdd â chyflogwyr ac artistiaid yn ystod trydedd arddangosfa flynyddol Design 48, a gafodd ei chynnal ar gampysau Gorseinon a Llwyn y Bryn.
Y Coleg ddatblygodd y syniad y tu ôl i Design 48 mewn partneriaeth â Rachael Wheatley o Waters Creative.

Coleg Gŵyr Abertawe yn Lansio Cynllun Strategol Uchelgeisiol ar gyfer 2025-2029
Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch o gyhoeddi lansiad ei Gynllun Strategol ar gyfer 2025-2029, gan osod cyfeiriad uchelgeisiol sy’n adlewyrchu ein hymrwymiad i ragoriaeth mewn addysg, sgiliau a hyfforddiant.
Datblygwyd y cynllun trwy gydweithredu’n helaeth â staff, dysgwyr, cyflogwyr, a rhanddeiliaid allweddol. Mae’n amlinellu gweledigaeth ddewr ar gyfer dyfodol y Coleg a’i rôl hanfodol bwysig wrth drawsnewid bywydau a llywio newid cadarnhaol yn y rhanbarth.
Darllen mwyWythnos Prentisiaethau Cymru 2025 yng Ngholeg Gŵyr Abertawe
Mae Wythnos Prentisiaethau Cymru yn ôl ar gyfer 2025, dathliad blynyddol sy’n tynnu sylw at y rôl hanfodol y mae prentisiaethau yn ei chwarae wrth lunio gweithlu’r dyfodol, grymuso dysgwyr a llywio llwyddiant busnes.
Eleni mae Wythnos Prentisiaethau Cymru yn rhedeg rhwng dydd Llun 10 tan ddydd Sul 16 Chwefror, lle mae cyflogwyr, colegau, ysgolion a mwy yn dod at ei gilydd i arddangos y cyfleoedd sy’n newid bywyd y mae prentisiaethau yn eu darparu a’u cyfraniad sylweddol i’r economi.
Darllen mwy
Gwybodaeth am noson agored Campws Tycoch, 20 Ionawr 2025
Dyma wybodaeth bwysig i unrhyw un sy’n meddwl am ddod i’n noson agored ar Gampws Tycoch ddydd Llun 20 Ionawr.
Mae’r noson agored yn dechrau am 5.30pm a bydd yn gorffen am 7.30pm. Ewch i'r brif dderbynfa pan fyddwch chi'n cyrraedd.
Gair o Groeso (Prif Neuadd): 5.30pm; 6pm; 6.30pm
Cofrestrwch ymlaen llaw am y digwyddiad os gallwch. Nid yn unig bydd hyn yn arbed amser pan fyddwch chi’n cyrraedd ond bydd hefyd yn rhoi modd i ni gadw mewn cysylltiad â chi gydag unrhyw newyddion.
Darllen mwySymudiad gyrfa gyda chyfleoedd mawr a all helpu i fynd â chi i’r lefel nesaf
Gall uwchsgilio ar brentisiaethau Coleg Gŵyr Abertawe eich arwain at lwybr i lwyddiant.Nid yw’n gyfrinach bod sgiliau, gwybodaeth a phrofiad perthnasol i gyd yn hynod werthfawr i gyflogwyr – ac yn ffodus, mae yna un math o ddysgu sy’n gallu eich helpu i ennill pob un ohonynt mewn un pecyn twt: prentisiaeth.
Darllen mwyPagination
- Previous page ‹‹
- Page 2
- Tudalen nesaf ››