Skip to main content

Cyfrifeg Lefel 2 - Cymdeithas Technegwyr Cyfrifyddu (AAT) Tystysgrif

Rhan-amser, Prentisiaeth
Lefel 2
AAT
Sketty Hall
34 weeks

Arolwg


Ar y lefel hon byddwch yn dechrau datblygu sgiliau cyfrifeg mewn cadw cyfrifon cofnod dwbl a chostio sylfaenol, yn ogystal â dealltwriaeth o brynu, gwerthu a chyfriflyfrau cyffredinol. Byddwch yn dysgu dealltwriaeth o feddalwedd cyfrifo ac yn datblygu’r sgiliau a’r ymddygiadau proffesiynol sydd eu hangen i gyfrannu’n effeithiol yn y gweithle. Mae gweithio ym maes cyfrifeg yn gofyn am sgiliau cyfathrebu da, sgiliau TG a dealltwriaeth o’r amgylchedd busnes, ac mae’r cymhwyster hwn yn cwmpasu pob un o’r rhain.

Mae unedau’n cynnwys:-
Cyflwyniad i Gadw Cyfrifon

Mae’r uned yn cwmpasu’r canlynol: - deall trafodion ariannol mewn system cadw cyfrifon, prosesu trafodion cwsmeriaid, prosesu trafodion cyflenwyr, prosesu derbynebau a thaliadau, prosesu trafodion trwodd i’r cyfriflyfrau.

Egwyddorion Rheolaethau Cadw Cyfrifon
Mae’r uned yn cwmpasu’r canlynol: - deall dulliau talu, deall rheolaethau mewn system cadw cyfrifon, defnyddio cyfrifon rheoli, defnyddio’r dyddlyfr, cysoni cyfriflen banc â’r llyfr arian parod, cynhyrchu mantolenni prawf.

Egwyddorion Costio
Mae’r uned yn cwmpasu’r canlynol: - deall system cofnodi costau sefydliad, defnyddio technegau cofnodi costau, darparu gwybodaeth am gostau ac incwm gwirioneddol a chyllidebol, defnyddio offer a thechnegau i ategu cyfrifiadau costau.

Yr Amgylchedd Busnes - Synoptig
Mae’r uned yn cwmpasu’r canlynol: - deall egwyddorion cyfraith contract, deall yr amgylchedd busnes allanol, egwyddorion allweddol cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol (CSR), moeseg a chynaliadwyedd, effaith sefydlu gwahanol fathau o endid busnes, y swyddogaeth gyllid o fewn sefydliad, cynhyrchu gwaith mewn fformatau priodol a chyfathrebu’n effeithiol, deall pwysigrwydd gwybodaeth i weithrediadau busnes.

05/07/23

Gwybodaeth allweddol

Yn ddelfrydol, bydd myfyrwyr yn meddu ar un neu ddwy radd A-C ar lefel TGAU ond mae synnwyr cyffredin a gallu am rifau ac amcangyfrif yn fwy pwysig. Ar agor i fyfyrwyr o bob oedran.

Addysgir y cwrs trwy ddarlithoedd ystafell ddosbarth gan aelodau o staff cymwysedig a phrofiadol. Asesiadau ar-lein yw’r arholiadau.

Bydd myfyrwyr yn gallu symud ymlaen i’r cwrs AAT Lefel 3 ar ôl cwblhau’r lefel hon. Mae’r cwrs hefyd yn darparu cymhwyster y mae cyflogwyr yn chwilio amdano.

Gallai’r cwrs hwn gael ei ariannu trwy ein Cynllun Prentisiaeth – gofynnwch am ragor o fanylion.