Trosolwg o’r Cwrs
Bydd myfyrwyr yn astudio amrywiaeth o unedau cysylltiedig â Chefnogi Dysgu ac Addysgu mewn Ysgolion a fydd yn ehangu eu dealltwriaeth o weithio yn y sector hwn. Mae pob uned yn cynnwys credydau, ac ar Lefel 3 mae 11 uned orfodol:
- Deall Datblygiad Plant a Phobl Ifanc
- Deall Sut i Ddiogelu Lles Plant a Phobl Ifanc
- Cyfathrebu a Chysylltiadau
- Ysgolion fel Sefydliadau
- Cefnogi Iechyd a Diogelwch Plant a Phobl Ifanc
- Cefnogi Gweithgareddau Dysgu
- Hyrwyddo Ymddygiad Cadarnhaol
- Datblygu Cysylltiadau Proffesiynol
- Hyrwyddo Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
- Cefnogi Asesu ar gyfer Dysgu
- Cyflawni Datblygiad Personol
Mae amrywiaeth eang o unedau dewisol hefyd, ac o’r rhain mae unedau sy’n darparu cyfanswm o chwe chredyd yn cael eu dewis i adlewyrchu ymarfer lleoliad y myfyriwr. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Cynllunio a Darparu Gweithgareddau Dysgu
- Cefnogi Chwarae
- Cefnogi Datblygiad Rhifedd
- Cefnogi Anghenion Arbennig
Diweddarwyd Mehefin 2018
Gofynion Mynediad
Rhaid eich bod yn gweithio yn y sector neu feddu ar gymhwyster Lefel 2 cydnabyddedig. Byddwch hefyd yn cael prawf sgrinio fel rhan o’r broses gyfweld i wirio bod eich sgiliau ar lefel addas i’r rhai sy’n gweithio yn y sector hwn. Bydd angen i fyfyrwyr fod â diddordeb brwd mewn gweithio yn y sector a dylent ddangos ymrwymiad a brwdfrydedd. Mae angen i fyfyrwyr fod yn ddibynadwy, yn onest, yn llawn cymhelliant ac yn hunanddibynnol. Dylai myfyrwyr fod yn 16 oed o leiaf.
Dull Addysgu’r Cwrs
Rhaglen blwyddyn yw hon sy’n arwain at gymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol. Mae’n rhoi modd i chi ddatblygu ymhellach yr wybodaeth, y sgiliau a’r ddealltwriaeth sydd eu hangen i weithio yn y sector hwn. Mae’r cwrs hwn yn rhoi cyfle i chi barhau i ddatblygu lefel eich cymhwysedd galwedigaethol ar gyfer gweithio mewn ysgolion. Gallwch chi ymgymryd â’r cymhwyster hwn fel aelod cyflogedig o staff yn y sector ysgolion neu fel gwirfoddolwr profiadol mewn ysgol sydd eisoes â chymhwyster Lefel 2 cydnabyddedig. Rhaid eich bod yn gweithio gyda phlant o oedran ysgol gorfodol. Byddwch yn mynychu’r Coleg am un sesiwn yr wythnos ar ddydd Llun 9am - 1pm (bob yn ail wythnos) yn Ysgol Pen-y-bryn neu ddydd Mawrth 6pm - 9pm. Mae lleoliad gwaith gorfodol o 400 awr o leiaf i’w gwblhau trwy gydol y rhaglen. (Lleiafswm o 12 awr yr wythnos. Gall dysgwyr sydd wedi cwblhau cymhwyster Lefel 2 gario rhai o’u horiau ymlaen i Lefel 3).
Mae pwyslais ar ddatblygu sgiliau gyda chymorth a chefnogaeth ar gael yn unigol. Asesir aseiniadau gwybodaeth yn fewnol. Asesir cymhwysedd galwedigaethol mewn lleoliad gan aseswr cymwysedig a chymwys. Mae’r cwrs hwn hefyd yn cael ei gynnig fel prentisiaeth.
Cyfleoedd Dilyniant
Gallech symud ymlaen i’r cwrs Gradd Sylfaen mewn Addysg, Dysgu a Datblygiad
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd rhaid i fyfyrwyr ar y cwrs hwn dalu ffi ar gyfer gwiriad DBS [CRB gynt]. Y gost gyfredol yw £46. Gall myfyrwyr wneud cais i’r Gronfa Ariannol Wrth Gefn [CAWG] i dalu cost gwiriad DBS.