Trosolwg o’r Cwrs
Bwriad y tri chwrs 10 wythnos hyn yw annog datblygiad technegau gofaint arian a rhoi cyfle i chi ychwanegu at y sgiliau sydd eisoes gennych.
- Cwrs 1: Technegau gosod cerrig megis gosod tiwbiau, gosod cyfwyneb a gwneud cylchyn; neu, ar lefel uwch, gemwaith gydag amryfal osodiadau.Gellir defnyddio’r gosodiadau hyn gyda cherrig ffasedog mewn gemwaith arian.
- Cwrs 2: Byddwch yn cynhyrchu dyluniadau gemwaith mewn ymateb i ddiwylliant Cymru, gan gymryd ysbrydoliaeth o arfordir Cymru, yr iaith Gymraeg a barddoniaeth, neu gael syniadau o’r Mabinogi. Bydd myfyrwyr lefel uwch yn gallu dewis thema. Byddwch yn defnyddio amrywiaeth o ddefnyddiau a thechnegau, sy’n briodol i’ch lefel, i gynhyrchu gwaith gemwaith arian.
- Cwrs 3: Bydd y cwrs hwn yn cwmpasu defnyddio enamelau, technegau ffurfio, rhybedu a stampio a chodi a ffurfio ar lefel uwch. Bydd disgwyl i fyfyrwyr fod yn arbrofol a rhoi cynnig ar wahanaol brosesau er mwyn ehangu eu sgiliau gwneud a dylunio, a chynhyrchu gemwaith o ddyluniadau wedi’u hysbrydoli gan eu gwaith ymchwil eu hunain.
Dull Addysgu’r Cwrs
Mae pob cwrs Gofaint Arian yn annibynnol o’r lleill – byddwch yn dysgu sgiliau sylfaenol ar bob cwrs yn ôl yr angen.
Darperir yr holl offer mewn gweithdy llawn cyfarpar. Bydd rhaid i fyfyrwyr brynu eu harian eu hunain sydd ar gael yn www.cooksongold.com.
Bydd cost y defnyddiau yn dibynnu ar ddyluniadau unigol a dewis cerrig. Bydd o leiaf un prosiect i’w gwblhau ar bob cwrs.
Gwybodaeth Ychwanegol
Ffi stiwdio £10
Llwyn y Bryn
Cwrs ar gael yn Gymraeg:
No