Skip to main content

Peintio Lefel 1 a 3

Rhan-amser
Llwyn y Bryn
10 wythnos
Ffôn: 01792 284021 (Llwyn y Bryn)

Arolwg

Mae’r cwrs hwn yn gyfle i ddatblygu sgiliau peintio yn y stiwdios celf pwrpasol ar Gampws Llwyn y Bryn. Cewch eich annog i ystyried y pwnc rydych chi am ei beintio a’r arddull dilynol rydych chi am ei archwilio. Byddwch chi’n archwilio amrywiaeth o gyfryngau a deunyddiau ar y cwrs. 


Tymor 1 Peintio ag actylig i ddechreuwyr (10 wythnos) 
Tymor 2 Peintio ag  olew i ddechreuwyr (10 wythnos) 
Tymor 3 Peintio ag  olewi ddechreuwyr a dysgwyr sydd â rhywfaint o brofiad o beintio (10 wythnos) 

Gwybodaeth allweddol

Does dim angen profiad blaenorol, dim ond diddordeb yn y maes pwnc. Byddai’n fuddiol i ddysgwyr fynychu bob tymor i gynyddu sgiliau yn barod ar gyfer cyrsiau tymor dau a thymor tri, er nid yw hyn yn rhwystr i fynychu bob tymor fel cwrs annibynnol. 

Addysgir y cwrs hwn yn y stiwdios celf a dylunio ar Gampws Llwyn y Bryn. Yn ystod y cwrs bydd dysgwyr yn cwblhau llyfryn o ganlyniadau. Asesir hwn er mwyn cael eich tystysgrif ar gyfer y cymhwyster. 

Gallech chi symud ymlaen o unrhyw gwrs rhan-amser i gyrsiau amser llawn mewn celf a dylunio. Yn achos oedolion sy’n ddysgwyr sy’n ystyried gyrfa greadigol, gallai’r cwrs Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio fod yn llwybr dilyniant addas ar gyfer hyn.

Darperir deunyddiau ond mae’r ffioedd stiwdio canlynol yn berthnasol ar gyfer pob cwrs: 
Tymor 1 - £15 
Tymor 2 - £20 
Tymor 3 - £20 

Painting (Apr Start)
Cod y cwrs: VA012 PLD3
11/04/2024
10 weeks
Thu
1.30-4.30pm
£65
1