Skip to main content

Serameg a Gwneud Mowldiau

Rhan-amser
AGORED
Llwyn y Bryn
10 wythnos
Ffôn: 01792 284021 (Llwyn y Bryn)

Arolwg

Bydd y cwrs hwn yn eich annog i archwilio ac arbrofi ag amrywiaeth o dechnegau adeiladu seramig, addurno arwyneb a thanio odyn.

Os hoffech chi ennill sgìl newydd, arbrofi â defnyddiau seramig, neu ychwanegu at wybodaeth flaenorol bydd y cwrs hwn yn cynnig cyfle i chi archwilio’r grefft draddodiadol o grochenwaith yn ogystal â serameg gyfoes.

Mae’r pwyslais ar y cwrs hwn yn seiliedig ar dechnegau serameg traddodiadol – byddwch chi’n dysgu technegau gwneuthur â llaw a ffurfiau cast slip.

Bydd y cwrs hefyd yn archwilio prosesau addurno, sgleinio a thanio cyfoes.

Rhoddir arddangosiadau a sesiynau tiwtorial unigol drwy gydol y cwrs gan eich annog i ychwanegu at eich sgiliau a datblygu’ch dull eich hun tuag at grefft crochenwaith.

Gwybodaeth allweddol

Does dim angen profiad blaenorol, dim ond diddordeb yn y maes pwnc. Byddai’n fuddiol i ddysgwyr fynychu bob tymor i gynyddu sgiliau yn barod ar gyfer cyrsiau tymor dau a thymor tri, er nid yw hyn yn rhwystr i fynychu bob tymor fel cwrs annibynnol.

Addysgir y cwrs hwn yn y stiwdios celf a dylunio ar Gampws Llwyn y Bryn. Yn ystod y cwrs bydd dysgwyr yn cwblhau llyfryn o ganlyniadau. Asesir hwn er mwyn cael tystysgrif ar gyfer y cymhwyster. Byddwch chi’n gweithio yn ein stiwdio serameg bwrpasol sy’n llawn cyfarpar i gynorthwyo eich profiad dysgu.

Gallech chi symud ymlaen o unrhyw gwrs rhan-amser i gyrsiau amser llawn mewn celf a dylunio. Yn achos oedolion sy’n ddysgwyr sy’n ystyried gyrfa greadigol, gallai’r cwrs Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio fod yn llwybr dilyniant addas ar gyfer hyn.

Darperir deunyddiau.