Llwyddiant cenedlaethol i fyfyrwyr yn yr Urdd
Bu llwyddiant arbennig i’n myfyrwyr yn Eisteddfod yr Urdd Llanymddyfri yn wythnos diwethaf. Bu dros 60 o fyfyrwyr i gyd yn cystaldu mewn amrywiol gystadlaethau llwyfan a gwaith cartref. Coleg Gŵyr Abertawe oedd y coleg addysg bellach fwyaf llwydianus o’r holl golegau yng Nghymru eleni.
ROWND GENEDLAETHOL
Llun 2D Bl10 a dan 19 oed – 1af Lara Rees
Ffotograff wedi’i addasu Bl.10 a dan 19 oed – 1af Sam Sarsero | 2il Morgan Mason
Ffotograffiaeth: Llun Lliw Bl10 a dan 19 oed – 1af Steffan Thomas | 3ydd Archie Craven
Myfyrwyr yn cynhyrchu arddangosfa ffasiwn rithwir
Roedd arddangosfa Gradd Sylfaen Dylunio Ffasiwn a Thecstilau eleni yn wahanol iawn i’r arfer. Roedd y cyfyngiadau ar symud yn golygu na allai myfyrwyr gynnal sioe gorfforol, ac felly fe wnaethant arddangos eu gwaith trwy dudalen Instagram bwrpasol.
Roedd pedwar myfyriwr wedi cofrestru ar y cwrs Gradd Sylfaen Dylunio Ffasiwn a Thecstilau eleni; Sheeza Ayub, Amy Convery, Susan McCormok a Bitney Pyle. Achredir y cwrs gan Brifysgol Swydd Gaerloyw.