Artistiaid talentog yn dangos eu gwaith
Mae artistiaid, ffotograffwyr a dylunwyr talentog o Goleg Gŵyr Abertawe wedi dathlu diwedd y flwyddyn academaidd gyda chyfres o arddangosfeydd ar draws y ddinas.
Cynhaliwyd y digwyddiad Safon Uwch Celf a Dylunio yn Adain y Celfyddydau Theatr y Grand Abertawe. Roedd yn dangos gwaith myfyrwyr ar amrywiaeth o gyrsiau gan gynnwys dylunio tecstilau, cyfathrebu graffig, celfyddyd gain a ffotograffiaeth, sydd i gyd yn cael eu haddysgu ar gampws Gorseinon.