Skip to main content

Y Coleg yn ennill Gwobr Rhagoriaeth Fyd-eang

Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi derbyn Gwobr Rhagoriaeth Addysg Fyd-eang Ysgolion Uwchradd Education First (EF) am yr eildro. 

Cyflwynwyd y wobr i’r Coleg i gydnabod y cymorth a gynigiwn i fyfyrwyr i’w helpu i gyflawni canlyniadau Safon Uwch rhagorol a symud ymlaen i rai o brifysgolion gorau’r DU. 

Brand byd-eang yw EF sy’n enwog iawn ym maes addysg, felly mae hyn yn gydnabyddiaeth wych i’r Swyddfa Ryngwladol a staff addysgu safon uwch am eu hymrwymiad i gefnogi llwyddiant myfyrwyr yn ystod cyfnod mor heriol.

Tagiau

Diwrnod iachusol allan ym Mae Rhosili

Roedd golygfeydd hyfryd a thraeth eang Bae Rhosili wedi creu cryn argraff ar ein carfan blwyddyn 1af bresennol.

Roedd y myfyrwyr yn falch iawn o gael cyfle i ymlacio gyda’i gilydd a chymdeithasu ar un o draethau mwyaf poblogaidd Bro Gŵyr. Roedd glaw yn edrych yn debygol, ond yn ffodus, roedd y tywydd wedi aros yn sych ac yn fwyn yn ystod ein hymweliad grŵp.

“Dyma un o’r golygfeydd gorau dwi erioed wedi’i gweld, ac mae Pen Pyrod yn fy atgoffa i o’m hoff draeth gartref,” meddai Nick, sy’n wreiddiol o Gambodia.

Tagiau

Ysgol Bartner newydd yn Noida, India

Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi llofnodi Memorandwm Ddealltwriaeth gydag Ysgol Prometheus yn Noida, India.

AARC (Asesu Addysg Ryngwladol Caergrawnt) achrededig yw Ysgol Prometheus a chafodd ei denu i Goleg Gŵyr Abertawe oherwydd ein profiad a’n llwyddiant yn y sector Safon Uwch. Bydd y bartneriaeth gyffrous hon yn cydweithredu ar nifer o feysydd gan gynnwys ysgolion haf a gaeaf, tiwtorialau ar-lein a’r Rhaglen Paratoi Rhydygrawnt.

Tagiau

Arddangos sgiliau o’r radd flaenaf

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn ymuno â WorldSkills UK i arddangos sgiliau o’r radd flaenaf.

Roedd myfyrwyr yng Ngholeg Gŵyr Abertawe wedi dangos eu sgiliau peirianneg electronig o’r radd flaenaf mewn digwyddiad hyfforddiant rhithwir gyda myfyrwyr o bob rhan o Tsieina. 

Y digwyddiad oedd y cyntaf o’i fath i gael ei gynnal yng Nghymru, ac fe’i trefnwyd gan WorldSkills UK, yr elusen addysg a sgiliau, gan gefnogi ei raglen i gyfnewid arfer gorau mewn datblygu sgiliau gyda gwledydd ledled y byd.

Coleg Gŵyr Abertawe yn arwyddo partneriaeth ag ysgol Tsieineaidd

Cynhaliwyd seremoni arwyddo unigryw ac arbennig iawn ddydd Mercher 1 Gorffennaf rhwng Coleg Gŵyr Abertawe ac Ysgol Arbrofol Ieithoedd Tramor Huashang, Talaith Guangdong, Tsieina.

Mae Ysgol Arbrofol Ieithoedd Tramor Huashang yn ysgol ryngwladol gydag addysg gynradd, iau ac uwchradd, ar gampws sydd tua 60,000 metr sgwâr.

Mae rhyngwladoli yn flaenoriaeth i Goleg Gŵyr Abertawe, ac mae’n croesawu myfyrwyr o Tsieina bob blwyddyn i astudio amrywiaeth o raglenni, gan gynnwys ein cyrsiau Safon Uwch.

Tagiau

Seremoni raddio rithwir i fyfyrwyr rhyngwladol

Diolch i ryfeddodau technoleg ddigidol, cafodd ein myfyrwyr rhyngwladol seremoni raddio wahanol iawn i flynyddoedd blaenorol.

Ar 29 Mehefin, roedd ein myfyrwyr Safon Uwch wedi mynd i ddigwyddiad ar-lein, a oedd â nifer o negeseuon gan staff ar draws y Coleg, gan gynnwys y Pennaeth, Mark Jones.

Roedd y myfyrwyr wedi mwynhau sioe sleidiau o’u rhaglen gymdeithasol cyn i Terry Summerfield, Tiwtor Rhyngwladol, gyflwyno’r tystysgrifau.

Tagiau