Skip to main content

Y Coleg yn ennill Gwobr Rhagoriaeth Fyd-eang

Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi derbyn Gwobr Rhagoriaeth Addysg Fyd-eang Ysgolion Uwchradd Education First (EF) am yr eildro. 

Cyflwynwyd y wobr i’r Coleg i gydnabod y cymorth a gynigiwn i fyfyrwyr i’w helpu i gyflawni canlyniadau Safon Uwch rhagorol a symud ymlaen i rai o brifysgolion gorau’r DU. 

Brand byd-eang yw EF sy’n enwog iawn ym maes addysg, felly mae hyn yn gydnabyddiaeth wych i’r Swyddfa Ryngwladol a staff addysgu safon uwch am eu hymrwymiad i gefnogi llwyddiant myfyrwyr yn ystod cyfnod mor heriol.

Yn ogystal, mae Swyddfa Ryngwladol y Coleg wedi bod yn gweithio’n galed i feithrin cysylltiadau byd-eang ac, er gwaethaf heriau’r pandemig, maent yn falch iawn o groesawu myfyrwyr o Tsieina, Hong Kong, Taiwan, De Corea a Rwsia i’r Coleg. 

Mae’r Coleg hefyd wedi llwyddo i sicrhau dwy ffrwd ariannu hanfodol arall, sef Turing Scheme ac Erasmus+. Bydd Turing Scheme yn rhoi cyfle i fyfyrwyr deithio i Tsieina neu Cambodia fel rhan o raglen gyfnewid (a fydd yn para pythefnos), a bydd Erasmus+ yn creu lleoliadau i fyfyrwyr yn Benfica, Coleg ROC Midden, yn yr Iseldiroedd ac yn Ysgol Werner Siemens yn yr Almaen.

Dywedodd Ruth Owen Lewis, Pennaeth yr Adran Ryngwladol, “Rydyn ni’n falch iawn o gael ein cydnabod gyda’r wobr hon gan EF, yn enwedig yn ystod cyfnod mor heriol. Mae myfyrwyr rhyngwladol Coleg Gŵyr Abertawe yn ffodus o gael Swyddfa Ryngwladol bwrpasol a darlithwyr rhagorol sy’n angerddol am sicrhau eu llwyddiant. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i’m tîm ac i’r staff addysgu cysylltiedig.”