Skip to main content

Wythnos Gymraeg

Cafwyd wythnos llawn digwyddiadau i ddathlu Cymreictod yn y Coleg o gwmpas dydd ein nawdd sant - sef Dydd Gŵyl Dewi.

Addurnwyd y stafell gyffredin ar bob campws gyda chennin Pedr ymhobman, balŵns melyn a gwyrdd, a bu baneri fflag Cymru, cennin Pedr a’r genhinen hefyd yn addurno’r lle o byst i byst.  Wrth gwrs fe oedd digonedd o bice ar y maen am ddim i’n myfyrwyr hefyd!

Dydd Miwsig Cymru

Mi oedd campws Gorseinon Coleg Gwyr Abertawe dan ei sang wythnos diwethaf wrth i ni ddathlu Dydd Miwsig Cymru – diwrnod cenedlaethol wedi’i sefydlu er mwyn dathlu cerddoriaeth cyfrwng Cymraeg cyfoes.  

Bu Menter Iaith Abertawe yn ymweld â’r coleg yn DJio rhestr o ganeuon Cymraeg gan fandiau megis Candelas, Sŵnami, Bryn Fôn a Band Pres Llareggub er mwyn codi ymwybyddiaeth ymysg ein myfyrwyr o’r amrywiaeth mewn cerddoriaeth  Gymraeg.

Coleg yn dathlu Santes Dwynwen

Bu Coleg Gŵyr Abertawe yn dathlu Dydd Santes Dwynwen mewn steil eleni.  Addurnwyd stafell gyffredin Gorseinon llawn balŵns calonnau coch.  Roedd pamffledi stori Dwynwen ymhobman, a digonedd o felysion, ‘Roses’ a chalonnau bach yn cael eu rhoi i’r myfyrwyr i godi ymwybyddiaeth o’r diwrnod hwn.

Ar gampws Llwyn y Bryn, creodd Kath Oakwood, Cynorthwyydd Llyfrgell arddangosfa Santes Dwynwen hyfryd.  Bu Marc Nurse, Swyddog Adloniant Myfyrwyr, ar gampws Tycoch yn rhannu melysion dros y campws gan godi ymwybyddiaeth bellach.

Llwyddiant i nofwyr o’r coleg

Bu pedwar myfyriwr o Goleg Gŵyr Abertawe, sy’n astudio Lefel-A ar gampws Gorseinon, yn cymryd rhan yn Gala Nofio Genedlaethol yr Urdd yn ddiweddar. 

Daeth Dylan Lambropolus, Kyle Job, Oliver Jones a Lewis Quirk yn gyntaf mewn dwy ras nofio gyfnewid – yr un amrywiol a’r un rhydd.  Roeddent yn cystadlu yn erbyn disgyblion a myfyrwyr ar draws Cymru gyfan yn y categori oedran ‘dros flwyddyn 11’.