Skip to main content

Coleg yn mwynhau Diwrnod i Ddathlu'r Gymraeg

Cyn diweddu am yr haf bu staff Canolfan Gwallt, Harddwch a Holistig Broadway yn mwynhau Diwrnod Dathlu’r Gymraeg yn rhan o wythnos hyfforddiant mewn swydd.

I ddechrau’r diwrnod gyda bach o hwyl, bu’r comediwyr Ignacio Lopez a Daniel Glyn. Dilynodd Bethan Mair gyda sesiwn yn trafod tarddiad enwau lleoedd Cymreig. Bu helfa drysor Gymraeg gan ddefnyddio’r ap Geiriaduron i chwilio am y fersiwn Saesneg o eiriau allweddol yn y salon - tasg fach gallant addasu i’w myfyrwyr.

Coleg yn cynnal Dydd Miwsig Cymru

Mi oedd campws Gorseinon Coleg Gŵyr Abertawe dan ei sang yr wythnos diwethaf wrth i ni ddathlu Dydd Miwsig Cymru – diwrnod cenedlaethol wedi’i sefydlu er mwyn dathlu cerddoriaeth gyfoes cyfrwng Cymraeg.  

Bu prosiect Gorwelion BBC Cymru yn ymweld â’r Coleg gyda llu o artistiaid newydd gyda Alasdair Gunneberg, Roughion, Eadyth, Hana2K a Marged yn chwarae ar y llwyfan acwstig yn yr ystafell gyffredin ar lawr gwaelod y campws.  Yn ogystal,  bu un o DJs y Coleg, Connor Thomas, yn chwarae cerddoriaeth ddawns y tu allan i dderbynfa’r Coleg gyda chymorth ‘boombox’ mawr. 

Llwyddiant i nofiwr o’r coleg

Bu Niamh Jones myfyriwr o Goleg Gŵyr Abertawe, sy’n astudio Lefel-A ar gampws Gorseinon, yn cymryd rhan yn Gala Nofio Genedlaethol yr Urdd yn ddiweddar. 

Ennillodd y fedal efydd yn y ras broga.  Roedd hi’n cystadlu yn erbyn disgyblion a myfyrwyr ar draws Cymru gyfan yn y categori oedran 16-19.

Myfyrwyr yn darganfod cyfleoedd perfformio Cymraeg

Bu criw o fyfyrwyr Cymraeg sy'n dilyn cyrsiau Perfformio yn yng Ngholeg Gwyr Abertawae yn ymweld â thîm talentog sy’n rhedeg cwrs BA Perfformio yng Nghanolfan Berfformio Cymru yn y Gate yng Nghaerdydd - cwrs sy’n cael ei ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Cafodd ein myfyrwyr gyfle i gymryd rhan mewn gweithdai actio, dawnsio a chanu dan arweiniad Eiry Thomas, Jackie Bristow, Elen Bowman ac Eilir Owen Griffiths.  Roedd yn ddiwrnod llawn hwyl a dysgu, ynghyd a hybu'r Gymraeg yn y maes yma.

Llwyddiant hyfforddiant yr Urdd i fyfyriwr

Ymunodd Rebecca Jones, myfyriwr Safon Uwch o Goleg Gŵyr Abertawe, a’r Urdd ar eu Penwythnos Hyfforddiant Chwaraeon yn Aberystwyth yn ddiweddar. 

Drwy weithio mewn partneriaeth a Phrifysgol Aberystwyth, crëwyd  'SuperTeams' lle bu bobl ifanc ledled Cymru yn dod at ei gilydd a chystadlu mewn amrywiaeth o weithgareddau chwaraeon gan gynnwys pêl-fasged, nofio, athletau a pêl-osgoi.

Croesawu siaradwyr Cymraeg i’r Coleg

Eleni am y tro cyntaf, cynhaliwyd Diwrnod Croeso yng Ngholeg Gwyr Abertawe i’r bobl ifanc hynny sy’n siarad Cymraeg ac wedi gwneud cais i ddechrau’n y coleg ym mis Medi.  Bwriad y diwrnod yma oedd croesawu myfyrwyr i un o gampysau’r coleg fel eu bod yn dod i nabod y lleoliad, cwrdd a siaradwyr Cymraeg eraill sydd wedi gwneud cais i’r coleg, cwrdd a rhai o’n staff cyfrwng Cymraeg, a dysgu am y cyfleoedd sydd ar gael iddynt yn y Gymraeg yn y coleg.

Myfyrwyr yn mwynhau cynhadledd chwaraeon

Bu criw o fyfyrwyr L3 Chwaraeon o gampws Gorseinon yn ymweld â chynhadledd ‘Dwyieithrwydd mewn Chwaraeon’ yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro wythnos diwethaf.

Trefnwyd y diwrnod gan y coleg drwy nawdd gan ColegauCymru gyda’r nod o hyrwyddo’r iaith Gymraeg ym maes chwaraeon.  Cawsom sesiwn ddifyr gan y sylwebydd Huw Llywelyn Davies sylwebu’n ddwyieithog i’r BBC ar gemau rygbi, criced a phêl-droed, a chafwyd blas ar sut i sylwebu ar gemau byw.