Skip to main content

Safon Uwch Economeg

Amser-llawn
Lefel 3
A Level
Gorseinon
Dwy flynedd
Ffôn: 01792 890700 (Gorseinon)

Arolwg

Ar y cwrs hwn byddwch yn canolbwyntio ar ficroeconomeg a macroeconomeg. 

  • Mae microeconomeg yn rhoi sylw i faterion megis: 
  • Pam mae prisiau tai mor uchel? 
  • Oes modd rheoli llygredd yn effeithiol? 
  • A ddylai llywodraethau ymyrryd â marchnadoedd? 
  • Beth sy’n digwydd pan fydd marchnadoedd yn methu? 

Mae macroeconomics yn rhoi sylw i faterion megis: 

  • Pam mae targed cyfradd chwyddiant gan y llywodraeth a sut mae’n effeithio arnom? 
  • Beth fydd yn digwydd i’r economi os bydd pobl yn penderfynu gwario rhagor? 
  • Sut mae economi’r DU yn cael ei heffeithio gan economïau sy’n datblygu? 
  • Beth yw costau a manteision cymdeithasol ac economaidd diweithdra?  

Gwybodaeth allweddol

  • O leiaf saith gradd A*-C ar lefel TGAU 
  • Gan gynnwys o leiaf radd B mewn Saesneg laith a Mathemateg 

Asesu:  

  • Arholiadau dewis lluosog 
  • Astudiaethau achos 
  • Traethodau 
  • Cwestiynau hen bapurau arholiad 

Meini Prawf Graddio: 

Arholiad:  100%.   

Asesir y cwrs drwy ddau arholiad yn Safon UG, y ddau yn bapurau ysgrifenedig  gyda chwestiynau atebion byr yn Uned 1, ynghyd â chwestiynau dewis lluosog. Mae Uned 2 yn cynnwys dwy astudiaeth achos. Yn Safon Uwch, mae dau bapur arall, eto gyda chwestiynau atebion byr ac astudiaeth achos yn Uned 2 a thraethodau yn Uned 4. 

Cyrsiau AU a addysgir yng Ngholeg Gŵyr Abertawe gan gynnwys HND Rheoli Busnes / BA Rheoli Busnes (cwrs breiniol Prifysgol De Cymru). 

Mae nifer o fyfyrwyr yn symud ymlaen i brifysgolion Russell Group, gan gynnwys Rhydgrawnt. Gallai gyrfaoedd yn y dyfodol gynnwys cyllid, bancio, cyfrifeg, addysg, yswiriant, meddygaeth a pheirianneg. Mae llawer o’n myfyrwyr yn symud ymlaen i weithio yn y Pedwar Cwmni Gwasanaethau Cyfrifeg a Phroffesiynol Rhyngwladol Mawr (Deloitte, PWC, KPMG ac Ernst & Young). 

  • Gwerslyfr y cwrs yw “Economics” gan Alain Anderton. 
  • Bydd y cwrs yn cynnwys teithiau i gwmnïau eraill, cwmnïau masnachu lleol, Amazon 
  • Byddwn yn cymryd rhan mewn sawl cystadleuaeth Economeg nodedig.