HND mewn Rheoli Busnes

HE
Lefel 4/5
UoSW
Tycoch, Plas Sgeti
two years
Ymgeisiwch nawr

Trosolwg

Hyd: Dwy flynedd
Bwriad y cwrs yw rhoi amrywiaeth eang o wybodaeth a phrofiad i'r myfyrwyr yn y sectorau busnes ac ariannol. Er bod pwyslais ar feysydd cyllid, mae’n rhaglen amrywiol sy’n addas i fyfyrwyr a hoffai ddatblygu’r amrywiaeth lawn o sgiliau busnes. 

Diweddarwyd Rhagfyr 2022

Click Here to Complete Our Higher Education Enquiry Form

Gwybodaeth allweddol

Gofynion Mynediad

Cynnig nodweddiadol yw:
Safon Uwch = DD
BTEC Diploma Estynedig L3 = PPP
BTEC Diploma L3 = MP
Mynediad = Pas
AAT3 = Pas.

Byddwn yn ystyried profiad gwaith perthnasol.

 

Dull Addysgu’r Cwrs

Mae modiwlau arfaethedig yn cynnwys:

Blwyddyn 1 (Lefel 4)

  • Rheoli Gwybodaeth Ariannol
  • Bod yn Weithiwr Proffesiynol; Ymchwiliad Beiriniadol
  • Entrepreneuriaeth a Dechrau Busnes
  • Economeg, Y Gyfraith a’r Amgylchedd Busnes
  • Pobl, Gwaith a Chymdeithas
  • Marchnata ac Ymddygiad Prynwyr

Blwyddyn 2 (Lefel 5)

  • Rheoli Pobl mewn Gweithle Byd-eang
  • Cyfathrebu Marchnata Creadigol
  • Cyfrifeg i Reolwyr
  • Dadansoddi Busnes Strategol
  • Prosiect Ymchwil Byw
  • Y Gweithle Digidol

Fel rhan o’r cwrs hwn mae opsiwn i fod yn dechnegydd cyfrifon cymwysedig trwy AAT.

Ni fyddai unrhyw ffioedd dysgu ychwanegol i astudio AAT Diploma Lefel 2/3 ochr yn ochr â’ch HND ym mlwyddyn un ac AAT Diploma Lefel 3/4 ym mlwyddyn dau, yn dibynnu ar gymwysterau a phrofiad blaenorol. 

Addysgir y cwrs dros dri diwrnod. Bydd rhaid i’r myfyrwyr sy’n dewis opsiwn AAT ddod am bedwar diwrnod. Mae opsiwn rhan-amser ar gael hefyd.

.

Cyfleoedd Dilyniant

Ar ôl cwblhau, gall myfyrwyr symud ymlaen i flwyddyn olaf y cwrs  BA (Anrh) Rheoli Busnes yng Ngholeg Gwyr Abertawe neu fel arall gallent symud ymlaen i gyrsiau BA (Anrh) ym Mhrifysgol De Cymru. 

Gwybodaeth Ychwanegol

Sut i wneud cais

Bydd angen i chi wneud cais drwy UCAS (cod UCAS yw NN41)

Cliciwch yma i wneud cais

Achrediad Dysgu Blaenorol

Mae’n bosibl y bydd y myfyriwr yn gallu ennill cydnabyddiaeth ar gyfer dysgu blaenorol. Cysylltwch i gael cyngor os teimlwch y gallai hyn fod yn bethnasol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma 

Y ffioedd dysgu yw £7,500 y flwyddyn. Ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24, bydd rhaid i fyfyrwyr gael benthyciad ffioedd dysgu am y swm llawn.

Mae’r Coleg yn cynnig bwrsari o £1,000 y flwyddyn tuag at gyrsiau amser llawn (mae hyn yn dibynnu ar ddilyniant
boddhaol ar y cwrs). I gael gwybodaeth am gymorth ariannol – gan gynnwys benthyciadau ffioedd dysgu – ewch i www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk

Mae’n bosibl y bydd costau ychwanegol cysylltiedig â’r cwrs hwn, h.y.:

  • teithio i ac o’r Coleg, neu’r lleoliad
  • costau llungopïo, deunydd ysgrifennu ac offer (e.e. ffyn USB)
  • argraffu a rhwymo
  • gynau ar gyfer seremonïau graddio