Skip to main content

Safon Uwch Mathemateg Bellach

Amser-llawn
Lefel 3
A Level
Gorseinon
Dwy flynedd
Ffôn: 01792 890700 (Gorseinon)

Trosolwg

Mae’r cwrs hwn yn opsiwn dim ond os yw’n cael ei astudio gyda Safon Uwch Mathemateg, nid yw’n bosibl dilyn y cwrs ar ei ben ei hun. Bydd dysgwyr yn astudio Safon Uwch Mathemateg yn y flwyddyn gyntaf cyn symud ymlaen i Fathemateg Bellach yn yr ail flwyddyn astudio os yw’n briodol. Mae’r meysydd astudio yn y flwyddyn gyntaf yr un fath â Mathemateg isod. Ar y cwrs Mathemateg Bellach, bydd dysgwyr yn astudio matricsau, rhifau cymhlyg a byddant yn cynnal dadansoddiad pellach o drigonometreg, calcwlws a ffwythiannau.

Amcanion y cwrs:

  • Datblygu dealltwriaeth ddofn o wahanol feysydd mathemateg bellach a sut maen nhw’n perthyn i’w gilydd
  • Parhau i ddatblygu eich sgiliau a thechnegau mathemategol, gan eich galluogi i ddatrys problemau mwy cymhleth a distrwythur
  • Gwella eich galluoedd rhesymu rhesymegol, gan ganiatáu i chi nodi rhesymu anghywir, cyffredinoli, a llunio prawf mathemategol.

Gwybodaeth allweddol

  • Saith gradd C neu uwch ar lefel TGAU, gan gynnwys Saesneg Iaith
  • Mae Gradd A* mewn TGAU Mathemateg yn ofynnol (bydd gradd A hefyd yn cael ei hystyried)
  • Rhaid astudio Mathemateg Bellach fel cwrs dwbl mewn cyfuniad â Safon Uwch Mathemateg.

  • Byddwn yn astudio Safon Uwch Mathemateg yn y flwyddyn gyntaf a Safon Uwch Mathemateg Bellach yn yr ail flwyddyn.
  • Naw awr o oriau darlithio yr wythnos
  • Gwaith cartref wythnosol
  • Asesiad dosbarth bob hanner tymor
  • UG Uned 1: Mathemateg Bur Bellach A (1 awr 30 munud)
  • UG Uned 2: Ystadegeau Pellach A (1 awr 30 munud)
  • UG Uned 3: Mecaneg Bellach A (1 awr 30 munud)
  • U2 Uned 4: Mathemateg Bur Bellach B (2 awr 30 munud)
  • U2 Uned 5: Ystadegau Pellach A NEU U2 Uned 6: Mecaneg Bellach B (1 awr 45 munud).

Mae Safon Uwch Mathemateg Bellach yn agor byd o gyfleoedd. Mae prifysgolion yn gwerthfawrogi’r cymhwyster hwn yn fawr, gan gynyddu eich siawns o gael eich derbyn i raglenni gradd nodedig mewn Mathemateg, Peirianneg, Ffiseg, Cyfrifiadureg, a mwy. Mae’n rhoi sgiliau datrys problemau a dadansoddol uwch i chi y mae galw amdanynt mewn gyrfaoedd fel:

  • Peirianneg
  • Cyllid
  • Dadansoddi data
  • Cryptograffeg
  • Ymchwil wyddonol.

Gall Safon Uwch Mathemateg Bellach arwain at gymwysterau proffesiynol hefyd fel bod yn Fathemategydd Siartredig neu’n Actiwari.

Rhaid i chi astudio Safon Uwch Mathemateg a Safon Uwch Mathemateg Bellach gyda’i gilydd. Mae hwn yn opsiwn Safon Uwch heriol iawn a dylech ei gymryd dim ond os yw’ch cwrs Prifysgol yn nodi bod angen Mathemateg Bellach arnoch.

Bydd angen arnoch gyfrifiannell Peirianneg Uwch/Wyddonol CASIO FX-991EX. Gellir prynu’r rhain o’r Llyfrgell ar Gampws Gorseinon.

Rydym yn cynnig cyfleoedd i sefyll arholiadau Heriau UKMT, Sêr Mathemateg a STEP/MAT.